Fine Gael
Fine Gael – The United Ireland Party, neu Fine Gael (Gwyddeleg am Deulu neu Dylwyth y Gwyddelod) yw'r drydedd blaid wleidyddol fwyaf yng Ngweriniaeth Iwerddon ar ôl Fianna Fail a Sinn Féin. Yn ôl y blaid, mae ganddi 30,000 o aelodau.[1] Fine Gael oedd y blaid fwyaf yn etholiad cyffredinol 2011 gan ffurfio Llywodraeth âr Blaid Lafur yn yr 31 Mawrth 2011 yn yr hyn a elwir yn 31ain Dáil Éireann (senedd Gweriniaeth Iwerddon). Sefydlwyd Fine Gael ar 3 Medi 1933 ar ôl uno ei mam-blaid Cumann na nGaedheal, y Centre Party a'r Army Comrades Association, neu'r "Blueshirts".[2] Gorwedd ei gwreiddiau yn Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon a'r pleidiau a fu o blaid y Cytundeb Eingl-Wyddelig yn Rhyfel Cartref Iwerddon, gan uniaethu yn enwedig â Michael Collins fel sefydlydd y mudiad[3] a'r rhai a gefnogodd sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg: Irish Free State; Gwyddeleg: Saorstát Éireann). Mae'r Fine Gael fodern yn ei disgrifio ei hun fel plaid y canol progresif, a'i gwerthoedd canolog yn seiliedig ar bolisi ariannol gofalus, hawliau a dyletswyddau'r unigolyn a'r farchnad rydd. Maent yn gadarn o blaid integreiddio yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn gwrthwynebu gweriniaetholdeb Wyddelig dreisgar. Mewn cyd-destun ehangach, mae'r blaid yn perthyn i sbectrwm y pleidiau Democratiaeth Gristnogol yn Ewrop.[4] Fine Gael yw'r unig blaid Wyddelig sy'n rhan o Blaid Pobl Ewrop (EPP) yn Strasbourg; mae ei ASEau yn eistedd yn y grwp EPP-ED. Ffurfiwyd adain ieuenctid y blaid, Young Fine Gael, ym 1977 ac mae ganddi tua 4,000 o aelodau.[5] Daeth Enda Kenny yn arweinydd ar 5 Mehefin 2002.[6] Roedd Kenny yn Taoiseach y Weriniaeth rhwng 2011-2017. Arweinydd gyfredol Fine Gael a'r toaiseach gyfredol yw Leo Varadkar. Arweinwyr y blaid
Baner Fine GaelChwifiwyd y faner yn hanesyddol wrth ymyl baner Iwerddon. Defnyddiwyd hi gan rhagflaenydd plaid Fine Gael, sef Cumann na nGaedheal, a ffacsiwn y tu fewn iddi, y lle-ffasgaidd, y 'crysau gleisio', Blueshirts. Dyluniad y faner yw croes goch sawtyr Padrig Sant ar faes glas tywyll, sef un o liwiau cenedlaethol Iwerddon (fel gwelir yn sêl a baner Arlywydd Iwerddon). Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia