Cytundeb Eingl-Wyddelig
Arweiniodd arwyddo Cytundeb Eingl-Wyddelig (Saesneg: Anglo-Irish Treaty, Gwyddeleg: An Conradh Angla-Éireannach) 1921 ar y naill llaw at, ddiwedd ar Ryfel Annibyniaeth Iwerddon a hefyd rhannu'r ynys, gyda 6 sir yn sefydlu llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon (a arhosai'n rhan o diriogaeth San Steffan) a 26 sir arall yn sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon a ddaeth, maes o law, yn Weriniaeth Iwerddon. Cyd-destunAr 11 Gorffennaf 1921, datganwyd cadoediad rhwng yr IRA a llywodraeth Prydain. Roedd cyfanswm o 1,500 o bobl wedi eu lladd. Ym mis Awst, cynhaliwyd uwch-gynhadledd rhwng Éamon de Valera, pennaeth Sinn Féin gan ochr yr Iwerddon a David Lloyd George gan ochr Prydain. Fodd bynnag, penderfynodd de Valera beidio mynychu'r cyfarfod ei hun ac yn hytrach Michael Collins, Arthur Griffith, Robert Barton, Eamon Duggan a George Gavan Duffy, a gyfarfu â Lloyd George, Winston Churchill ac Arglwydd Birkenhead. Yn gysgod ar y trafodaethau oedd bygythiad y Prydeinwyr y gall rhyfel fwy ail-ddechau pe na bai'r Gwyddelod yn derbyn y telerau. Cafwyd anghytuno hefyd dros y term a statws 'plenipotentwyr' (sef statws y ddirprwyaeth i wneud penderfyniadau yn y fan a'r lle). Roedd y term yn rhoi statws gwladwriaethol i'r Gwyddelod, statws nad oedd Prydain yn barod i'w dderbyn. Yn llygad Prydain, roeddynt yn trafod gydag Aelodau Seneddol unigol ac nid cynrychiolwyr Gweriniaeth sofran. Roedd Collins yn fwy nag unrhyw un yn ymwybodol nad oedd yr IRA mewn sefyllfa i ennill y rhyfel o'r fath. Prif faen tramgwydd y Gwyddelod oedd tyngu llw i'r Brenin a datgymalu chwe sir o'r wladwriaeth newydd (er, roedd y Cytundeb yn nodi byddai Comisiwn Ffin yn cael ei sefydlu i ddatgan yn derfynol ar yr union setliad yma). Arwyddwyd y Cytundeb ar 5 Rhagfyr 1921 ac ar 7 Ionawr 1922 cyflwynwyd hi i'r thrafod yn senedd Iwerddon, Dáil Éireann. Derbyniwyd y Cytundeb gan 64 pleidlais o blaid a 57 yn erbyn. Ymddiswyddodd de Valera, a oedd yn ei erbyn ef, ac fe'i disodlwyd gan Arthur Griffith. Arweiniodd yr adrannau dwys rhwng cefnogwyr a gwrthwynebwyr y cytundeb at Ryfel Cartref Iwerddon a barodd rhwng Mehefin 1922 ac Ebrill 1923 ac a adawodd graith ar wleidyddiaeth y wladwriaeth newydd am ddegawdau i ddod. Yn wir dywedir i Birkenhead nodi Collins wrth iddo arwyddo'r Cytundeb, "Mr Collins, in signing this Treaty I'm signing my political death warrant", gyda Collins yn ateb yn broffwydol, "Lord Birkenhead, I'm signing my actual death warrant."[1] Honodd Michael Collins yn hwyrach i Lloyd George fygwth y Gwyddelod ar y funud olaf gydag adferiad, "terrible and immediate war"[2] pe na bai'r Cytundeb yn cael ei harwyddo ar unwaith. Ni gofnodwyd hyn yn nhestun memorandwm y Gwyddelod ar ddiwedd y drafodaeth, ond, yn hytrach, fel sylw bersonol gan Lloyd George i Robert Barton. Dadleua nifer mai dim ond nodi realiti a deinameg torri cadoediad filwrol wnaeth Lloyd George.[3] Nododd Barton:
Sefydlu Gwladwriaeth Rydd IwerddonRoedd yr holl ynys, mewn egwyddor, yn rhan o Wladwriaeth Rydd Iwerddon (Saorstát Éireann) pan grewyd fel nodwyd yn y Cytundeb ar flwyddyn wedyn, ar 6 Rhagfyr 1922 gan broclamasiwn brenhinol, unwaith byddai'r cyfansoddiad yn cael ei chymeradwyo gan Senedd Dros-dro Iwerddon a Senedd Prydain.[1] Ond mewn gwirionedd,ar 8 Rhagfyr, gwahanodd chwech o siroedd Ulster o'r Wladwriaeth rydd wedi iddynt bleidleisio o'r "Siambrau". [2]??? Prif Bwyntiau'r CytundebCeir sawl prif bwynt i'r Cytundeb a arwyddwyd [4] gyda rhai'n ddigon di-dramgwydd ac eraill yn arwain at ddechrau Rhyfel Cartref Iwerddon.
Pe bai Gogledd Iwerddon yn dewis gadael y Wladwriaeth newydd, byddai Comisiwn y Gororau yn cael ei sefydlu i olrhain y ffin rhwng Gwladwriaeth Rhydd Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Negodwyr
Cefnogaeth Ysgrifenyddol
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia