John Bruton
Roedd John Gerard Bruton (Gwyddeleg: Seán de Briotún) (18 Mai 1947 –6 Chwefror 2024) yn wleidydd o Iwerddon, a fu'n taoiseach (Prif Weinidog) Gweriniaeth Iwerddon o 15 Rhagfyr 1994 i 26 Mehefin 1997. Bu hefyd yn llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i Unol Daleithiau America.[1] Ganed ef yn Dunboyne, County Meath, i deulu amaethu Catholig cyfoethog. Noda Oliver Coogan yn ei lyfr, 'Politics and War in Meath 1913–23' i'w daid wrthod i'r helfa cadnoid gan y teuluoedd Eingl-Wyddelig lleol, tramgwyddo ei dir adeg Rhyfel Annibyniaeth. Cyfeirir ato fel Taoiseach lwcus am y ffordd yr enillodd rym ac oherwydd i economi Iwerddon brasgamu i'r cyfnod 'Celtic Tiger' yn ystod ei gyfnod fel arweinydd. AddysgGraddiodd o ysgol yr Iesuwyr Coleg Clongowes Wood, astudiodd economeg yng Ngholeg Prifysgol Dulyn a'r gyfraith yn y King's Inns, gan ddod yn fargyfreithiwr yn 1970.[2] Bu'n ymwneud â gwleidyddiaeth Fine Gael yn ddyn ifanc, gan ymuno â hi ym 1965. Gyrfa wleidyddolYm 1969 fe'i hetholwyd i senedd Iwerddon, Dáil Éireann, am y tro cyntaf. Fe'i ail-etholwyd yn llwyddiannus yn etholiadau 1973, 1977, 1981, 1982, Tachwedd 1982, 1987, 1989, 1992, 1997 a 2002, gan wasanaethu fel Teacht Dala yn nhŷ isaf Senedd Iwerddon.[3] Yn 1973 - 1977 bu'n ysgrifennydd seneddol. O fis Mehefin 1981 i fis Mawrth 1982 bu'n Weinidog Cyllid. O fis Rhagfyr 1982 i fis Rhagfyr 1983 bu'n Weinidog Diwydiant ac Ynni, yna'r Gweinidog Diwydiant, Masnach a Thwristiaeth (tan fis Chwefror 1986), y Gweinidog Cyllid (tan fis Ionawr 1987) a'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (tan fis Mawrth 1987). Yn 1990 daeth yn llywydd newydd plaid Fine Gael gan gymryd lle Alan Dukes fel arweinydd. [4] Taoiseach, Prif Weinidog IwerddonAr ôl etholiadau 1992, daeth Fine Gael yn wrthblaid. Fodd bynnag, yn dilyn anghytuno o fewn clymblaid llywodraethol Albert Reynolds Fianna Fail a Plaid Lafur Iwerddon yn 1994, llwyddodd Burton i greu llywodraeth newydd, 'yr enfys, yn cynnwys Fine Gael, y Blaid Lafur a'r Chwith Democrataidd. Yn 47 oed Burton oedd taoiseach ifancaf Iwerddon ar y pryd (nes i Leo Varadkar ddod yn Taoiseach yn 2017). Dyma'r tro cyntaf i Iwerddon gael prif weinidog newydd heb gynnal Etholiad Cyffredinol. Daliodd swydd y Taoiseach ac arweinydd Llywodraeth yr enfys o fis Rhagfyr 1994 i fis Mehefin 1997. Yn ystod y cyfnod hwn, ymhlith pethau eraill, bu'n arwain Llywyddiaeth Iwerddon yr Undeb Ewropeaidd, yn ystod trafodaethau ar y Pact Sefydlogrwydd a Thyfiant.[5] Yn 2001, ymddiswyddodd fel pennaeth y Fine Gael. Bu'n aelod o'r senedd, a'i gynrychioli yn y Confensiwn Ewropeaidd.[6] Yn 2004, ymddiswyddodd o fandad y dirprwy. O fis Rhagfyr 2004 i fis Hydref 2009, roedd yn Llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i'r Unol Daleithiau.[7] Roedd disgwyl i Fine Gael ennill etholiad 1997, ond er i'r blaid wneud yn dda, collodd Llafur dir. Yn y pendraw, sefydlwyd llywodraeth newydd rhwng Fianna Fail a'r Progressive Democrats o dan arweinyddiaeth Bertie Ahern ac ymddiswyddodd Burton yn 2001. Nodweddion ei Brif WeinidogaethCytunwyd i lywodraeth yr enfys fod yn un llwyddiannus, gyda chydweithio agos rhwng Bruton ac arweinydd y Blaid Lafur, Dick Spring a Proinsias de Rossa o'r Chwith Democrataidd. Daeth Bruton o draddodiad Plaid Seneddol Iwerddon, a hongiai darlun o John Redmond yn ei swyddfa - y dyn a gollodd i don gweriniaethol Sinn Fein wedi Gwrthryfel y Pasg. Ond roedd hefyd portread o Seán Lemass, dyn, a dybiau Bruton i fod yn Brif Weinidog mwyaf effeithiol y wladwriaeth, er ei fod yn aelod o Fianna Fail. O dan Lywodraeth yr Enfys, pasiwyd Refferendwm a newidiodd Cyfansoddiad y Weriniaeth gan roi rhai hawliau i gyplau priod ysgaru o fewn cyfyngderau. Roedd y refferendwm ar 24 Tachwedd 1995 gyda'r bleidlais yn agos tu hwnt; 818,842 (50.28%) o blaid newid y cyfansoddiad, a 809,728 (49.72%) yn erbyn. Daeth yn ddeddf gwlad ar 17 Mehefin 1996.[8] Gwelwyd datblygiadau tuag at cymodi a rhoi trefn cyfansoddiadol newydd rhwng Gogledd Iwerddon, y Weriniaeth a Phrydain gyda lansio 'Dogfen Fframwaith' Eingl-Wyddelig ym mis Chwefror 1995 gyda Phrif Weinidog Prydain, John Major. Er i'r cyn Taoisech, Albert Reynolds ei alw'n 'John Unionist' roedd yn feirniadol iawn o benderfyniad Prydain i beidio ymwneud gyda Sinn Fein yn ystod cadoediad yr IRA rhwng 1994-97. Yn ystod ei gyfnod hefyd, fe groesawyd Tywysog Charles i'r Iwerddon. Dyma'r ymweliad gyntaf gan aelod o deulu brenhinol Lloegr i'r Iwerddon ers 1912. Yn dilyn llofruddio'r newyddiadurwraig, Veronica Guerin, sefydlodd ei Lywodraeth y Criminal Assets Bureau. PersonolRoedd yn briod â Finola Bruton, mae ganddo bedwar o blant.[9] Roedd yn frawd i'r gwleidydd Richard Bruton. DolenniCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia