Cumann na nGaedheal
![]() Roedd Cumann na nGaedhael (IPA:ˈkʊmˠənˠ nˠə ˈŋeːl̪ˠ) yn Gymraeg, "Cymdeithas yr Gwyddel", yn blaid wleidyddol yng Ngwladwriaeth Rydd Iwerddon. Cumann na nGaedheal 1afArddelwyd yr un enw (ac ni ddylid cymysgu hi) â mudiad a sefydlwyd yn 1900 gan Arthur Griffith a William Rooney. Roedd y grŵp yma'n gasgliad o'r holl glybiau Weriniaethol, ac yn 1905 ymunodd grwpiau â grwpiau eraill i sefydlu Sinn Féin. Cumann na nGaedheal - y BlaidSefydlwyd plaid Cumann na nGaedheal ar 27 Ebrill 1923 gan aelodau TD Sinn Féin oedd o blaid y Cytundeb Eingl-Wyddelig a arwyddwyd gan Lywodraeth Dros-dro Iwerddon wedi'r Rhyfel Annibyniaeth. Y prif sylfaenydd oedd W.T. Cosgrave sef un o ffigurau amlycaf y mudiad gweriniaethol wedi llofruddiaeth Michael Collins yn 1922 gan luoedd yn erbyn y Cytundeb a marwolaeth naturiol Arthur Griffith (sylfaenydd y mudiad gwreiddiol) yn yr un flwyddyn. Yn etholiad 1923 i'r senedd genedlaethol newydd, Dáil Éireann, enillodd y blaid newydd 63 o seddi. Dyma'r blaid fu'n llywodraeth Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn ystod ei degawd ffurfiannol. Llywodraeth Cumann na nGaedhealRoedd Cumann na nGaedheal yn derbyn rhaniad Iwerddon ac dechreuant ar roi seilwaith i sefydlu'r Wladwriaeth Rydd.[1] Sefydlwyd yr heddlu newydd. Gellir nodi rhai o gerrig milltir degawd y blaid mewn grym:[2]
Dilynodd y Blaid polisi cyllidol geidwadol a chodwyd oedran codi pensiwn. Achosodd hyn i'r blaid golli pleidleisiau yn etholiad Mehefin 1927 gan ennill ond 47 sedd (27% o'r bleidlais) a llwyddasant i aros mewn grym dim ond oherwydd bod Fianna Fail (y blaid gwrth-Gytyndeb dan arweinyddiaeth Eamon de Valera, a oedd wedi ennill 44) sedd yn dilyn polisi o beidio cymryd eu seddi yn y senedd pro-Cytundeb. Ond yn dilyn llofruddiaeth y Gweinidog Catref Kevin O’Higgins gan wrthwynebwyr, galwodd Cosgrave etholiad brys ym mis MEdi 1929 a'r tro yma adferpdd CnG ei lle gan ennill 67 sedd a 39% o'r bleidlais. Roedd y blaid y cefnogi masnach rydd a cyllideb heb fenthyca ac yn erbyn diffyndollaeth. Gydag effeithiau'r Dirwasgiad Mawr collodd y blaid etholiadau Dáil Éireann yn Chwefror 1932 i blaid Fianna Fail (enillodd CnaG 57 sedd a Fianna Fáil 72). Roedd Fianna Fail yn arddel polisiau mwy poblogeiddiol o blaid diffyndollaeth ac ysgogi swyddi. Yn 1933 yn sgil y golled, cynhaliwyd trafodaethau gyda National Centre Party a'r National Guard (y 'Blueshirts') i ffurfio plaid newydd Fine Gael ym mis Medi 1933. Canlyniadau Etholiadau Cyffredinol
Dolenni
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia