Kevin O’Higgins
Roedd Kevin Christopher O'Higgins (Gwyddeleg Caoimhin Ó Críostóir hUiginn; 7 Mehefin 1892 – 10 Gorffennaf 1927) yn wleidydd o Iwerddon. Ganed Higgins yn Stradbally, Sir Laois. Lladdwyd ef gan gefnogwyr yr IRA ar 10 Gorffennaf 1927 yn Booterstown. Roedd yn weriniaethwr a gwladweinydd Gwyddelig bwysig yn natblygiad Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. MagwraethGaned O'Higgins yn 1892 yn fab i Thomas Francis Higgins (llofruddiwyd, 1923) ac Anne Sullivan (marw, 1953), merch Timothy Daniel Sullivan. Ef oedd y pedwerydd o 16 o blant. Roedd o deulu cenedlaetholgar gyda'i fam yn ferch i'r aelod seneddol genedlaetholaidd a golygydd y cylchgrawn genedlaetholgar, The Nation, Timothy Daniel Sullivan a modryb yn briod â'r aelod seneddol cenedlaetholaidd, Tim Healy. Mynychodd O'Higgins Coleg Clongowes Wood ac astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Dulyn (UCD), lle graddiodd mewn Baglor yn y Celfyddydau yn 1915 a Baglor yn y Gyfraith yn 1919. CenedlaetholdebYn 1915 ymunodd â mudiad parafilwrol, y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (Irish Volunteers). Ar ddechrau Gwrthryfel y Pasg roedd O'Higgins yn sir Laois. Ymdrechodd i ymuno â'r Gwrthryfel yn syth ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w gynllun wedi iddo ond cyrraedd tref Athy, gan bod yr awdudrdodau Prydeinig yn gwrthod gadael i ddynion ifanc gael mynediad i Ddulyn. Yn 1918 roedd ymhlith y rhai a arestiwyd gan lywodraeth Prydain dan yr esgus o'r "Cynllun Almaeneg". Yn ystod ei amser yn y carchar, fe'i hetholwyd i Dŷ'r Cyffredin yn Llundain.[1] Yn 1919 eisteddodd fel aelod Teachta Dála (aelod seneddol) i blaid Sinn Féin yn y Dáil Éireann hanesyddol cyntaf. Daeth yn Weinidog Cynorthwyol dros Lywodraeth Leol dan W.T. Cosgrave. Pan gafodd ei garcharu yn 1920, fe gymerodd ei le a phrofi ei hun yn wleidydd galluog. ![]() Rhyfel Cartref IwerddonRoedd O'Higgins yn gefnogwr cryf i'r Cytundeb Eingl-Wyddelig, a arweiniodd yn y pen draw at sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Ym mis Awst 1922 bu farw ddau o brif ffigurau'r mudiad annibyniaeth a chefnogwyr y Cytundeb, Michael Collins ac Arthur Griffith a daeth Cosgrave yn Arlywydd Dáil Éireann a Chadeirydd Llywodraeth Dros Dro De Iwerddon. Gyda chreu y Wladwriaeth Rydd yn swyddogol ar 6 Rhagfyr 1922 Cosgrave oedd y Prif Weinidog cyntaf - y teitl swyddogol oedd Llywydd y Cyngor Gweithredol a daeth O'Higgins yn Weinidog dros Faterion Cartref (yn 1924, ailenwyd y swyddfa yn Weinidog Cyfiawnder ac yn Is-lywydd). Y ddwy swyddfa hyn a gynhaliodd hyd ei farwolaeth. Fel Atwrnai Cyffredinol, ceisiodd sefydlogrwydd a gweithredodd bolisi llym yn ystod Rhyfel Cartref Iwerddon. Ymhlith pethau eraill, arwyddodd yr orchymyn dienyddio Rory O'Connor, a fu'n was priodas iddo lai na blwyddyn ynghynt. At ei gilydd, bu 77 dienyddiad o wrthryfelwyr i'r Cytuneb yn ystod y Rhyfel Cartref. Llofruddwyd tad O'Higgins fel dial am weithredoedd ei fab. Yn 1923 sefydlodd O'Higgins y Garda Síochána fel heddlu Iwerddon. Yr hyn sy'n ryfeddol o gofio sefyllfa'r Rhyfel Cartref ar y pryd yw i'r heddlu fod yn ddi-arfog ac maent wedi parhau fel hynny hyd heddiw. Apwyntiodd Eoin O'Duffy yn Gomisiynydd cyntaf y Garda. Adwaenir O'Duffy fel trefnydd a diolchir iddo am greu llu di-arfog, dinesig ac anwleidyddol, er, bod ethos Gatholig gref i'r llu newydd i'w wrthgyferbynu gyda'r Royal Irish Constabulary, yr hen heddlu o dan lywodraeth Prydain. GwleidyddiaethDisgrifiodd O'Higgins ei hun fel, the most conservative-minded revolutionaries that ever put through a successful revolution.[2][3] Roedd O'Higgins yn geidwadol, er fel rhan o'r "Donnybrook Set" doedd ddim mor bleidiol i achosion megis yr iaith Wyddeleg, economeg awtarcistaidd a militariaeth.[4] Roedd ganddo feddwl isel o achosion asgell chwith; mewn ymateb i gwestiwn ar ei farn ar y bleidlais i fenywod dywedodd, "I would not like to pronounce an opinion on it in public." a bychannodd bolisiau cymdeithasol sosialaidd y 'Democratic Programme' a gynnwyswyd yn y Dáil cyntaf fel "mostly poetry". Fel Gweinidog Materion Tramor llwyddodd i ennill rhagor o hunanlywodraeth i'r Iwerddon fel rhan o'r Gymanwlad Brydeinig, gwrthododd y tueddiad o fewn rhai sectorau o'i blaid, Cummann na nGaedheal at ddilyn llwybr Ffasgaeth Mussolini.[5] LlofruddioAr 10 Gorffennaf 1927 llofruddiwyd O'Higgins ar ochr Booterstown Avenue o Cross Avenue yn Nulyn, tra ar ei ffordd i'r Cymun yn Church of the Assumption, Blackrock. Llofruddwyd ef gan dri aelod IRA; Timothy Coughlin, Bill Gannon a Archie Doyle mewn dial am bolisi dienyddio O'Higgins. Derbyniodd angladd wladwriaethol a chladdwyd ef ar 13 Gorffennaf ym Mynwent Glasnevin. Cofadail![]() Cofnodwyd cyfraniad O'Higgins fel un o sylfaenwyr Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ar gofail a godwyd ar lawnt Tŷ Leinster, cartref deddwrfa Iwerddon. Dadorchuddiwyd cofeb bychan iddo ym mis Gorffennaf 2012, gan y Taoiseach, Enda Kenny ger y safle lle llofruddiwyd ef. Difrodwyd y plac o fewn wythnos wedi i rhywun daflu paent coch drosto ac yn ei ddifri drachefn. Tynnwyd y plac ymaeth ac nid yw wedi ei hail-godi.[6] Tylwyth gwleidyddolDilynodd nifer o deulu O'Higgins ei lwybr ym myd gwleidyddiaeth y Weriniaeth. Bu ei frawd, Thomas F. O'Higgins senior, a'i nai Thomas F. O'Higgins a Michael O'Higgins yn weithgar fel gwleidyddion. Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia