Elidir Fawr
Mae Elidir Fawr (neu Carnedd Elidir) yn fynydd yn y Glyderau yn Eryri, y pellaf i'r gorllewin o fynyddoedd y Glyderau. EnwYr enw cywir yw Carnedd Elidir, ond daeth Elidir Fawr i ddefnydd gyda mapiau O.S. ac ysfa am gydbwysedd gydag enw mynydd Elidir Fach. Yn draddodiadol, enwyd y mynydd ar ôl Elidir Mwynfawr, tywysog o'r Hen Ogledd a laddwyd yn Arfon. DaearyddiaethAr ochr ogleddol y mynydd mae Marchlyn Mawr, cronfa sy'n rhan o gynllun gorsaf bŵer Dinorwig, sydd i mewn yn y mynydd ei hun. Ar ochr Llanberis i'r mynydd mae Chwarel Dinorwig. Mae'r copa yn rhan o grib creigiog, hir, sy'n rhedeg o Graig Cwrwgl yn y gogledd-ddwyrain i Fwlch Melynwyn yn y de-orllewin. I'r gogledd-orllewin, rhed Elidir Fach yn gyfochrog a'r prif grib. Ni ystyrir Elidir Fach yn fynydd ar wahan fel arfer, ond mae ganddi uchder o 795m. Tua'r gogledd-ddwyrain, mae Bwlch y Marchlyn a Bwlch y Brecan yn cysylltu'r mynydd i Fynydd Perfedd a'r Foel Goch. LlwybrauGellir dringo'r mynydd o ochrau Dinorwig (ger Deiniolen), o Waun Gynfi (ger Mynydd Llandygái) neu o Nant Peris. Gellir cerdded ar hyd ffordd y gorsaf bŵer o Waun Gynfi i frig Marchlyn Mawr, ac yna esgyn yn syth i'r copa, neu gychwyn ar hen inlclein y Chwarel o Ddinorwig, ac yna croesi Elidir Fach. O Nant Peris mae'r llwybr yn croesi Afon Dudodyn ac yna'n dringo llechwedd serth i'r copa. Gellir hefyd ei ddringo o Lyn Ogwen, trwy ddilyn y llwybr heibio Llyn Idwal a dringo i'r grib ger y Twll Du. Yna gellir dringo Y Garn gyntaf ac yna ymlaen i gopa Elidir Fawr, neu mae llwybr arall yn osgoi copa Y Garn.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia