Y Garn (Glyderau)
Mae'r Garn yn fynydd yn Eryri, ac ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy. Mae'n un o nifer o fynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi yn y Glyderau. LlwybrauY ffordd orau o gyrraedd y copa yw dilyn y llwybr o Lyn Ogwen at Lyn Idwal. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger Llyn y Cŵn. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) Gellir troi i'r dde yma a dilyn llwybr sy'n arwain i gopa'r Garn. Gellir dringo'r mynydd o Ben-y-pass hefyd. UchderDosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 947 metr (3107 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001. Gweler hefyd
Dolennau allanol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia