Yr Elen
Mae'r Elen yn fynydd yn y Carneddau yn Eryri. EnwMae tarddiad yr enw yn ansicr. Un awgrym yw fod y mynydd wedi ei enwi ar ôl rhyw "Elen", efallai, os mai Llywelyn ap Gruffudd a roes ei enw i Garnedd Llywelyn, fod "Yr Elen" wedi ei enwi ar ôl ei wraig Eleanor de Montfort. Mwy tebygol yw mai Gelen sydd yn yr enw, yn cyfeirio at y ffordd y mae'r mynydd i weld wedi ei gysylltu ei hun ar ystlys Carnedd Llywelyn, fel gelen ar anifail. Daearyddiaeth a llwybrauSaif yr Elen ar grib fechan sy'n gadael prif grib y Carneddau ger Carnedd Llywelyn ac yn arwain tua'r gogledd-orllewin. Mae'n agos iawn at Garnedd Llywelyn, dim ond un cilometr ar hyd y grib, ac fel arfer cyrhaeddir y copa o gopa Carnedd Llywelyn. Mae modd hefyd dringo'r Elen yn uniongyrchol o Gerlan ger Bethesda, gan ddilyn Afon Llafar at droed yr Elen ac yna dilyn llwybr braidd yn aneglur i fyny'r llechweddau. Mae'r ffordd hon braidd yn serth, ond mae rhai o'r ffyrdd i fyny Carnedd Llywelyn yn cynnwys rhannau serth hefyd megis ar lechweddau Pen yr Ole Wen. Gweler hefyd
Dolennau allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia