Caerffili
Tref a chymuned yng Nghymru yw Caerffili[1][2] (Saesneg: Caerphilly) sydd ym mhen deheuol Cwm Rhymni. Mae'n rhoi ei henw i'r ardal weinyddol o'i chwmpas - Bwrdeistref Sirol Caerffili - ac i'r caws a wreiddioddgynhyrchwyd yn yr ardal. Mae castell enwog i'w weld yn y dref - y castell mwyaf yng Nghymru. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4] Mae'n 7 mi (11 km) i'r gogledd o Gaerdydd a 9.5 mi (15.3 km) i'r gorllewin o Gasnewydd. [5] Hi yw tref fwyaf Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae o fewn ffiniau hanesyddol Morgannwg, ar y ffin â Sir Fynwy. Yn y Cyfrifiad diwethaf roedd gan y dref boblogaeth o 15,989 (2021)[6] tra bod gan ardal Bwrdeisdref Caerffili boblogaeth o 181,019 (2018)[7]. Mae Caerffili wedi'i gwahanu oddi wrth faestrefi Llys-faen a Rhiwbeina yng Nghaerdydd gan fynydd Caerffili. Mae'r dref yn adnabyddus y tu allan i Gymru am gaws Caerffili. GeirdarddiadMae'n bosibl mai ystyr enw'r dref yw "caer Sant Ffili"[8]. Dywed traddodiad i fynachlog gael ei hadeiladu gan Sant Cenydd, meudwy Cristnogol o'r 6g o Benrhyn Gŵyr, yn yr ardal. Senghenydd oedd enw'r cantref Cymreig yn y cyfnod canoloesol.[9] Dywedir i fab Cenydd, sef Ffili, godi caer yn yr ardal, gan roi ei henw i'r dref.[10] Posibilrwydd arall yw i'r dref gael ei henwi ar ôl Philip de Braose.[10] HanesMae safle'r dref wedi bod o arwyddocâd strategol ers dros ddwy fil o flynyddoedd. Tua 75 OC adeiladwyd caer yma gan y Rhufeiniaid yn ystod eu hymgais i ddarostwng Ynys Prydain.[11] Dangosodd gwaith cloddio ar y safle ym 1963 fod lluoedd Rhufeinig yn byw yn y gaer tan ganol yr ail ganrif.[11] Yn dilyn ymosodiadau gan y Normaniaid ar Gymru ar ddiwedd yr 11g, arhosodd cantref Sengenhydd yn nwylo'r Cymry. Erbyn canol y 12g, roedd yr ardal dan reolaeth y pennaeth Cymreig Ifor Bach (Ifor ap Meurig). Ei ŵyr Gruffydd ap Rhys oedd arglwydd Cymreig olaf Sengenhydd. Syrthiodd yr ardal i ddwylo creulon y Sais Gilbert de Clare (yr "Iarll Coch") yn 1266.[9] Dychwelwyd yr ardal i ddwylo'r Cymru ym 1267 pan orfodwyd Harri III, brenin Lloegr i gydnabod Llywelyn ap Gruffudd yn Dywysog Cymru, ac erbyn Medi 1268 roedd Llywelyn wedi sicrhau cantref Sengenhydd. Fodd bynnag, rcychwynodd Gilbert de Clare atgyfnerthu ei diriogaeth, gan ddechrau adeiladu Castell Caerffili ar 11 Ebrill 1268, er gwaethaf cytundeb Llywelyn a Harri.[12] Oherwydd hyn ymosodwyd ar y castell gan luoedd Tywysog Cymru a daeth y gwaith adeiladu i ben yn 1270. Ailddechreuodd y gwaith adeiladu yn 1271 a pharhaodd o dan fab yr Iarll Coch, sef Gilbert de Clare, 8fed Iarll Caerloyw.[13][14] Gydag ailfodelu mewnol yn unig wedi’i wneud i’r castell gan Hugh le Despenser yn y 1320au, ystyrir fod Castell Caerffili yn enghraifft bur o bensaernïaeth filwrol y 13g. Dyma’r castell mwyaf yng Nghymru, a’r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain (ar ôl castell Windsor yn Llundain).[15] Tyfodd tref wreiddiol Caerffili fel anheddiad bach a godwyd ychydig i'r de o'r castell a symudwyd nifer o Saeson yma i fyw. Wedi marwolaeth Gilbert de Clare ym Mrwydr Bannockburn ym 1314, daeth Edward II yn warcheidwad tair chwaer ac aeres De Clare. Yn 1315 penododd gweinyddwr Seisnig newydd, Payn de Turberville, a oedd yn erlid pobl Morgannwg mewn modd creulon iawn. DaethLlywelyn Bren, gor-ŵyr Ifor Bach ac Arglwydd Cymreig Senghenydd, yma i amddiffyn ei bobl o greulondeb de Turberville, ond fe'i cyhuddwyd o frad a gorchmynnodd Edward i Lywelyn ymddangos gerbron Senedd Lloegr i wynebu'r cyhuddiad o fradwriaeth gan fygwth ei grogi. Ffodd Llywelyn a pharatoi ar gyfer rhyfel. Ar 28 Ionawr 1316, dechreuodd Llywelyn y gwrthryfel gydag ymosodiad annisgwyl ar Gastell Caerffili. Cipiodd y cwnstabl y tu allan i'r castell a'r ward allanol, ond ni allai dorri i mewn i'r amddiffynfeydd mewnol. Llosgodd ei luoedd y dref, lladd rhai o'r Saeson oedd yn ei gwladychu a dechrau gwarchae. Ailadeiladwyd y dref ond parhaodd yn fach iawn trwy gydol yr Oesoedd Canol.[16] Y dystiolaeth gyntaf o'i bwysigrwydd oedd adeiladu llys barn yn y 14g. Ar ddechrau’r 15g ymosodwyd ar y castell gan Owain Glyn Dŵr, a'i meddiannodd rhwng 1403 ac 1405. Atgyweiriwyd y castell tan tua 1430, ond dim ond canrif yn ddiweddarach cofnododd yr hynafiaethydd John Leland fod y castell yn adfail wedi’i osod mewn corstir, gydag un tŵr yn cael ei ddefnyddio fel carchar.[9][12] Yng nghanol yr 16g defnyddiodd Henry Herbert, 2il Iarll Penfro (1534-1601) y castell fel llys maenoraidd, ond yn 1583 rhoddwyd y castell ar brydles i Thomas Lewis, a ddefnyddiodd llawer o'r cerrig i adeiladu ei faenor gerllaw,"Y Fan".[17][12] Gadawodd y teulu Lewisiaid, disgynyddion Ifor Bach, y faenor yng nghanol y 18g a symud i Gastell Sain Ffagan, a dadfeiliodd y Fan.[14][9] Yn ystod y 1700au, dechreuodd Caerffili dyfu i fod yn dref farchnad. Yn ystod y 19g, wrth i Gymoedd De Cymru weld twf aruthrol oherwydd y glo a diwydiannau eraill, tyfodd poblogaeth y dref hefyd. Agorwyd gorsaf reilffordd Caerffili ym 1871. LlywodraethuMae dwy haen o lywodraeth leol yn cwmpasu Caerffili: Cyngor Tref Caerffili ar lefel gymunedol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n gweinyddu ardal Bwrdeisdref Sirol Caerffili. Lleolir y cyngor tref yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn.[18] Mae'r fwrdeistref wedi'i henwi ar ôl Caerffili, ond mae'n cwmpasu ardal lawer mwy. Nid yw prif swyddfeydd y cyngor bwrdeistref sirol yn nhref Caerffili ei hun, ond yn Ystrad Mynach, sy'n fwy canolog.[19] Yn hanesyddol, roedd Caerffili yn rhan o blwyf hynafol Eglwysilan yn sir Forgannwg. Sefydlwyd bwrdd lleol i ddarparu llywodraeth leol i Gaerffili yn 1893, a oedd yn cynnwys y ddau blwyf: Eglwysilan a Llanfabon. Roedd ardal y bwrdd yn cynnwys ardal sylweddol i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin o'r dref ei hun, yn ymestyn i Ffynnon Taf, Nelson a rhan ddeheuol Ystrad Mynach.[20][21] Yn 1894, ailgrewyd y byrddau lleol hyn. DiwylliantCroesawodd Caerffili yr Eisteddfod Genedlaethol i Gaerffili yn 1950. Enillwyd y Goron gan Euros Bowen a'r Gadair gan Gwilym R. Tilsley. Ceir nifer o bobl nodedig a gafodd eu magu yng Nghaerffili gan gynnwys y digrifwr Tommy Cooper a'r pêl-droedwyr David Pipe, Aaron Ramsey a Robert Earnshaw. Mae gan y dref glwb rygbi'r undeb, sef Clwb Rygbi Caerffili a sefydlwyd yn 1887 ac sy'n chwarae yng Nghynghrair Cenedlaethol URC.[22] Enw'r stadiwm yw 'Molecs' a llysenw'r clwb yw'r Cheesmen. Ceir cysylltiad agos gyda Chlwb Rygbi Dreigiau, un o'r pum rhanbarth gwreddiol yn hanes rygbi rhanbarthol Cymru. Mae gan Gaerffili hefyd ei glwb genweirio ei hun o'r enw Cymdeithas Bysgota Caerffili a'r Cylch a sefydlwyd ar ddiwedd y 1940au.[23] Daw dwy ffair fwyd i'r dref yn flynyddol, Gŵyl Fwyd Caerffili, a gynhelir ar strydoedd y dref, a Gŵyl y Caws Mawr, sydd wedi’i chynnal yng Nghastell Caerffili a’r cyffiniau bob haf ers 1998. Cyrhaeddodd nifer yr ymwelwyr 80,000 yn 2012.[24] Mae'r digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth eang o stondinau caws yn ogystal â ffair wagedd, tân gwyllt [25] a ras gaws o amgylch y castell.[26] CludiantRheilfforddMae gan Gaerffili dair gorsaf reilffordd a phob un wedi'i lleoli ar Lein Rhymni sy'n gwasanaethu Caerdydd.
Mae'r gwasanaeth rheilffordd rhwng Caerffili a Heol y Frenhines Caerdydd fel arfer yn cymryd 13 munud. Oddi yno mae gwasanaethau'n parhau i Benarth, Caerdydd Canolog, neu o bryd i'w gilydd i Ben-y-bont ar Ogwr (trwy Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd). Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[27][28][29][30] Enwogion
GefeilldrefiEisteddfod GenedlaetholCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerffili ym 1950. Am wybodaeth bellach gweler: Gweler hefydCyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia