Aberbargoed
Pentref yng nghymuned Bargod, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Aberbargoed[1] neu Aberbargod.[2] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir ar y briffordd A4049 tua milltir i'r gogledd o Bargod, rhwng Tredegar ac Ystrad Mynach. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Nick Smith (Llafur).[4] Yr enwMae'r enw'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yma. "Aber Bargoed" oedd ffurf 1578. Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn: fe'i canfyddir yn gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf cynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.[5] Pobl o Aberbargoed
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
|
Portal di Ensiklopedia Dunia