Abdelaziz Bouteflika
Gwleidydd o Algeria oedd Abdelaziz Bouteflika (2 Mawrth 1937 – 17 Medi 2021) a fu'n Arlywydd Algeria o 1999 i 2019. Ganed ef yn Oujda yng nghyfnod y brotectoriaeth Ffrengig ym Moroco, yn fab i Ahmed Bouteflika a Mansouria Ghezlaoui o ardal Tlemcen yng ngogledd-orllewin Algeria Ffrengig. Yn 19 oed, yn ystod Rhyfel Algeria, ymaelododd Abdelaziz Bouteflika â'r Armée de liberation nationale (ALN), byddin y Front de libération nationale (FLN), i frwydro dros annibyniaeth oddi ar Ffrainc. Cafodd ei benodi'n ysgrifennydd gweinyddol i Houari Boumediene, un o arweinwyr yr FLN.[1] Yn sgil annibyniaeth Algeria ym 1962, cefnogwyd arlywydd cyntaf y wlad, Ahmed Ben Bella, gan Boumediene a'i gylch, gan gynnwys Bouteflika. Ym 1965, cafodd Ben Bella ei ddisodli yn yr arlywyddiaeth gan Boumediene. Gwasanaethodd Bouteflika yn Weinidog Tramor Algeria o 1963 i 1978, ac yn Llywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o Fedi 1974 i Fedi 1975. Yn sgil marwolaeth Boumediene, cafodd ei yrru'n alltud gan yr arlywydd newydd, Chadli Bendjedid, am saith mlynedd. Dychwelodd Bouteflika i fyd gwleidyddiaeth yn sgil ymddiswyddo'r Arlywydd Liamine Zéroual ym 1999. Cafodd ei ystyried gan rai fel arweinydd a allai ailgymodi'r wlad wedi rhyfel cartref hynod o waedlyd ers 1991. Wedi i Bouteflika ennill yr etholiad arlywyddol ym 1999 gyda 74% o'r bleidlais, galwodd refferendwm i gynnig amnest i'r gwrthryfelwyr er mwyn sicrhau "Cytgord Sifil" a rhoi terfyn ar y rhyfel. Pleidleisiodd 98% o etholwyr o blaid y ddeddf amnest, a ddaeth y rhyfel cartref i ben o'r diwedd erbyn 2002. Ail-etholwyd Bouteflika yn arlywydd yn 2004, 2009, a 2014. Ysgogwyd protestiadau yn ei erbyn yn 2019 wedi iddo gyhoeddi yr oedd am ymgyrchu am bumed dymor yn y swydd. Collodd gefnogaeth y fyddin, a phenderfynodd i ymddiswyddo yn Ebrill 2019. Bu farw yn Zéralda, Algeria, yn 84 oed.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia