Oujda
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Moroco yw Oujda (Arabeg: وجدة). Lleolir y ddinas tua 15 km i'r gorllewin o'r ffin rhwng Moroco ac Algeria a rhyw 60 km i'r de o lan y Môr Canoldir. Poblogaeth: tua 500,000. Mae'n brifddinas rhanbarth L'Oriental. Mae'n ddinas ddiwydiannol sy'n gartref i Brifysgol Mohammed I. Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Angads. Mae rheilffordd yn cysylltu Oujda â Fes a Casablanca i'r gorllewin; roedd hyn yn rhan o lein ar draws y Maghreb yn cysylltu Moroco, Algeria a Tiwnisia, ond oherwydd yr anghydfod a helyntion yn Algeria does dim gwasanaeth ar draws y ffin heddiw. Ceir peth dystiolaeth o bresenoldeb y Rhufeiniaid yma pan fu'n rhan o dalaith Mauretania Tingitana. Sefydlwyd y ddinas bresennol yn 994 gan Ziri ibn Atiyya, brenin y Zenata Berber. Ailadeiladwyd y ddinas yn y 13g gan y swltan Abou Youssef. Cafodd ei meddiannu gan Ffrainc yn 1844 ac eto yn 1859. Dan reolaeth Ffrainc, cafodd Oujda ei defnyddio gan y Ffrancod fel gwersyll filwrol i reoli dwyrain Moroco. Ganed Abdelaziz Bouteflika, arlywydd Algeria, yn Oujda. GefeilldrefDolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia