Ysgol Rad Llanrwst![]() Ysgol ramadeg yn Llanrwst, Dyffryn Conwy, oedd Ysgol Rad Llanrwst. Fel yr hen 'ysgolion rhad' eraill yng Nghymru, roedd canran o fyfyrwyr Ysgol Rad Llanrwst yn derbyn nawdd o gronfa elusennol yr ysgol er mwyn cael addsyg yno. Lladin oedd iaith yr ysgol. Dysgwyd Saesneg hefyd ond, fel ymhob ysgol arall yn y wlad, dim Cymraeg. HanesAdeiladwyd yr ysgol gan Syr John Wynn o Wydir yn y flwyddyn 1610. Rhoddodd Syr John waddol sylweddol i'r sefydliad newydd i'w chynnal, yn cynnwys arian i godi tŷ i'r ysgolfeistr ac £20 y flwyddyn o gyflog iddo (cyflog digon derbyniol yn yr 17g). Bu'n ysgol lewyrchus am gyfnod, ond daeth tro ar fyd. Dywedir fod yr ysgolfeistr ar ddechrau'r 19g yn gas a chreulon a chiliodd y plant a chaewyd yr ysgol. Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio ar gyfer ysgol ganolradd newydd yn nes ymlaen yn y ganrif (Ysgol Dyffryn Conwy heddiw). Ers rhai blynyddoedd mae'r adeilad yn wag ar ôl i Ysgol Dyffryn Conwy symud i safle newydd. EnwogionCafodd y bardd Ieuan Glan Geirionydd ei addysg ganolradd yn yr Ysgol Rad. Ar ôl i'r ysgol fod yn gau ac i'r adeilad ddechrau dadfeilio, cyfansoddodd un o'i gerddi mwyaf adnabyddus yn galaru'r ysgol a'i hen ffrindiau.[1] Dyma un bennill:
Mae cyn-ddisgyblion enwog eraill yn cynnwys:
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia