John Edwards (Meiriadog)
Bardd a llenor Cymraeg oedd John Edwards (1813 – 24 Gorffennaf 1906), a adnabyddid wrth ei enw barddol Meiriadog. Cyfranodd lawer i gylchgronau Cymraeg ei oes fel golygydd, bardd ac awdur erthyglau. Roedd hefyd yn adnabyddus fel beirniad eisteddfodol.[1] BywgraffiadGaned Meiriadog ym mhlwyf Llanrwst (Sir Conwy) yn 1813. Cafodd ei addysg yn Ysgol Rad Llanrwst, yr ysgol ramadeg sy'n wrthrych y gerdd adnabyddus gan Ieuan Glan Geirionnydd. Treuliodd gyfnod fel prentis o argraffydd yn Llanrwst. Symudodd i fyw yng Nghefn Mawr, ac wedyn i Llanfair Caereinion, Caerdydd, a Merthyr Tudful. Yn 1844 dychwelodd i Lanfair Caereinion lle priododd a threuliodd weddill ei oes yno.[1] O ran ei wleidyddiaeth roedd yn Rhyddfrydwr i'r carn, fel llawer o Gymry eraill yn y cyfnod hwnnw. Bu farw ar y 24 o Orffennaf 1906 yn 93 mlwydd oed.[1] LlenorDechreuodd lenydda o ddifrif yn 1835. Rhwng y flwyddyn honno a 1860 ymddangosodd llawer o'i farddoniaeth mewn cylchgronau megis Seren Gomer, Y Dysgedydd, Y Diwygiwr, Y Gwladgarwr, a'r Drysorfa. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol.[1] Roedd gryn barch iddo fel awdurdod ar ramadeg a chystrawen y Gymraeg, fel meistr ar reolau cynghanedd, ac fel beirniad eisteddfodol. Bu'n olygydd Yr Hyfforddwr (1852-58) a'r Llusern (1858 ymlaen).[1] Cyflwynwyd ei lawysgrifau i Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1926.[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia