Seren Gomer
Mae Seren Gomer yn gylchlythyr misol sy'n cael ei gyhoeddi gan Gapel Gomer, Abertawe. Seren Gomer oedd y papur newydd wythnosol cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar 1 Ionawr 1814 yn Abertawe[1]. Cyhoeddwr Seren Gomer oedd Joseph Harris (Gomer), oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Abertawe. Roedd yn cynnwys newyddion o Gymru a thramor, ac eitemau llenyddol. Daeth y rhediad gyntaf i ben ar ôl 85 rhifyn, yn rhannol oherwydd y dreth uchel ar newyddiaduron a diffyg incwm o hysbysebion. Pan bu farw Joseph Harris yn 52 oed ym 1825, gwerthwyd y papur i gyhoeddwr yng Nghaerfyrddin a daeth yn gylchgrawn chwarterol i'r Bedyddwyr. Parhaodd y cylchgrawn ar y ffurf hwn tan 1983. Ail-gychwynwyd cyhoeddi Seren Gomer ar ffurf cylchlythyr digidol misol gan Gapel Gomer ar 12 Chwefror 2018. Darllen ar-leinMae'r cylchgrawn wedi ei ddigido ac ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia