Castell Gwydir
Hen blasdy yn Nyffryn Conwy, ger Llanrwst, cartref hanesyddol Wyniaid Gwydir, yw Castell Gwydir (ceir y ffurfiau amgen Gwydyr a Gwyder). Gorwedd tua milltir i'r gorllewin o dref marchnad hynafol Llanrwst a 1.5 milltir i'r de o bentref Trefriw. Mae'r hen gastell yn blasdy crand erbyn hyn, ac wedi ei gosod ar dir gorlif gwastad Afon Conwy; i'r gorllewinol mae Coedwig Gwydyr. Cysylltir Castell Gwydir yn bennaf â Syr John Wynn (1553-1627), awdur History of the Gwydir Family. Mae'r adeilad hardd yn dyddio o ail hanner y 16g. Fe'i adeiladwyd gan John Wyn ap Maredudd, taid Syr John. Am flynyddoedd bu'n enwog am y peunod lliwgar a rodiai yn y gerddi ac ar hyd ben y muriau. Gwerthwyd y stad gan y teulu yn y 1890au. Mae'n gartref preifat heddiw ond yn agored i'r cyhoedd ar adegau. GwydirCeir sawl ffurf ar yr enw 'Gwydir', yn cynnwys 'Gwydyr' a 'Gwyder'. Nid yw'r ansicrwydd am y ffurf gywir yn rhywbeth newydd. Ar ddiwedd llythyr at Ieuan Fardd a ysgrifennwyd yn 1767, mae'r hynafiaethydd Richard Morris (1703 - 1779), un o Forysiaid Môn, yn dweud "Rhowch fy ngharedigol orchymyn at y Cyfaill mwyn Mr. Williams o Wedyr ynte Gwydyr, Gwydir, Gwydr, Gwaedir, Gwaederw etc. etc. Pa un yw'r goreu?".[1] HanesDywedir bod amddiffynfa o rhyw fath wedi bod ar y safle ers 600. Daeth Gwydir yn gartref i linach y Wynniaid, a oedd ymhlith disgynyddion Brenhinoedd Gwynedd ac un o deuluoedd pwysicaf gogledd Cymru yn ystod cyfnod y Tuduriaid a'r Stiwartiaid. Llyfryddiaeth
Gweler hefydCyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia