Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
Ysgol uwchradd gyfun gymunedol cyfrwng Cymraeg yn nhref glan-môr Aberystwyth yw Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig ac fe'i henwyd ar ôl yr hen gantref o'r un enw (Penweddig). Sefydlwyd yr ysgol yn 1973[3] fel ysgol ddwyieithog i blant gogledd Sir Ceredigion, ond ysgol Gymraeg yw hi bellach. Noda Prospectws yr ysgol mai'r 'Gymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a hi hefyd yw cyfrwng y rhan fwyaf o’r gwersi. Mae cynnal Cymreictod o fewn yr ysgol, y gymuned leol a thu hwnt yn rhan ganolog o waith yr ysgol.' Nodir hefyd fod gwaith dyngarol yn elfen amlwg o waith a thraddodiad yr ysgol.[4] Mae gan yr ysgol tua 600 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae canlyniadau arholiadau allanol, ar bob lefel, yn sylweddol uwch na chanlyniadau cyfartalog Cymru ac mae'r ysgol ymhlith yr ugain ysgol orau yng Nghymru. Yn 2005, roedd bron traean o’r disgyblion yn derbyn gwersi offerynnol neu leisiol a cheir adnoddau da, gyda 7 labordy a 7 gweithdy celf a dylunio a thechnoleg.[5] PenaethiaidGerald Morgan (1973-1989) Arwel George (1989-2009) Gwenallt Llwyd Ifan (2009-2018) Dr Rhodri Thomas (2020-2022) Clive Williams (2024-) AdeiladauAdeiladwyd drwy ddull Menter Cyllid Preifat (PFI) gan gwmni Atkins. Nhw sy'n berchen ar adeilad yr ysgol, ac mae'n cael ei logi i'r Cyngor Sir i'w ddefnyddio fel ysgol. Agorodd yr ysgol mewn hen adeilad ar Ffordd Dewi, Aberystwyth, adeilad roedd y cyngor yn berchen arno. Ym mis Hydref 2001 symudwyd yr ysgol i'w chartref presennol ar Ffordd Llanbadarn. Gwerthoedd
Cyn-ddisgyblion nodedig
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia