Gwenallt Llwyd Ifan
Bardd ac addysgwr o Gymru yw Gwenallt Llwyd Ifan. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999 ac Eisteddfod AmGen 2021. Mynychodd Ysgol Gynradd Tregaron, ac Ysgol Uwchradd Tregaron, ac astudiodd yng Ngholeg Trefforest (Prifysgol De Cymru bellach). Mynychodd ddosbarthiadau cynganeddu John Glyn Jones. Gweithiodd i'r Weinyddiaeth Amaeth ym mhlasty Trawscoed, Ceredigion, yn yr 1980au. GyrfaBu'n athro a phennaeth Bioleg mewn ysgolion yn y gogledd am rai blynyddoedd. Penodwyd ef yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth, yn 2000. Yn 2003, penodwyd ef yn bennaeth Ysgol Uwchradd Tregaron.[1] Yn 2009, penodwyd ef yn bennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth. Yn 2018, daeth yn hyfforddwr athrawon Gwyddoniaeth, Cemeg a Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Enillodd Dlws Coffa John Glyn Jones yn 2019 am yr englyn gorau yng nghystadlaethau englyn y dydd yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019. Gwenallt oedd Bardd y Mis Radio Cymru yn Ebrill 2021. Mae hefyd yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tal-y-bont a thîm Ymryson y Beirdd Ceredigion.[2] Bywyd personolYn 2024, roedd e'n byw yn Nhal-y-Bont gyda'i wraig Delyth. Mae ganddynt ddau blentyn. Mae hefyd wedi ennill gwobrau pysgota. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia