Sorela
Triawd o chwiorydd o Gymru sy'n canu caneuon yn Gymraeg yw Sorela. Maent yn perfformio caneuon gwerin, cyfoes Cymraeg a chyfieithiadau a chaneuon poblogaidd Saesneg yn ddi-gyfeiliant. CefndirSorella (gyda dwy 'l') yw'r gair Eidaleg am "chwaer" [1] sy'n esbonio enw'r grŵp yma o dair chwaer, Lisa Angharad,[2] Gwenno Elan, Mari Gwenllian. Sefydlwyd y grŵp yn 2014. Maent yn ferched i'r gantores werin adnabyddus, Linda Griffiths bu'n canu gyda'r grŵp gwerin Plethyn. Mae Lisa Angharad hefyd yn un o gyfwynwyr BBC Radio Cymru 2. Mae'r merched yn hanu o Aberystwyth a buont yn mynychu Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. Cabarela![]() Mae Sorela yn un o drefnwyr, prif perfformwyr a chyflwynwyr cyngherddau cabaret, Cabarela. Mae'r digwyddiadau yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon a hiwmor oedolion. Ymysg y perfformwyr eraill mae Hywel Pitts a'r Welsh Whisperer. Cafwyd Taith Nadolig Cabarela yn 2018.[3][4] Bu iddynt drefnu daith genedlaethol adeg Nadolig 2022[5] a hefyd 2023 gan berfformio yn; Pontio Bangor; Neuadd William Aston, Wrecsam; Theatr Derek Williams, Y Bala, Glee Club, Caerdydd, Y Ffwrnes, Llanelli; a Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.[6] gyda thriawd Sorela a'r perfformwyr: Miriam Isaac, Meilyr Rhys Williams, Hywel Pitts, Iestyn Arwel, ac Elain Llwyd.[7] Disgograffi
Detholiad o Ganeuon
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia