Welsh Whisperer
Diddanwr canu gwlad â chomedi a chyflwynydd radio a theledu o bentref Cwmfelin Mynach, Sir Gaerfyrddin ydy'r Welsh Whisperer, cymeriad, diddanwr a chanwr cefn gwlad (ganwyd 22 Medi 1987). Mae'n adnabyddus am ei ganeuon canu gwlad gwerinol ond mae hefyd wedi arbrofi gyda chaneuon gwerin a phop â chomedi ynddynt hefyd. Bywyd personolGanwyd Andrew Walton yn ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Mynychodd Ysgol Gynradd Cwmbach ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin yn Sir Gaerfyrddin.[1] Magwyd ym mhentref Cwmfelin Mynach lle aeth i'r ysgol Sul dan ofal Capel Ramoth.[2] Symudodd ei rieni i Gymru o Loegr ym 1984 ac mae ei fam wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, a'i dad bellach yn dysgu'r iaith. Aeth i fyw yn Sheffield, Lloegr yn 2006 ond daeth yn ôl i Gymru yn 2014. Mae'n byw ym Methesda. GyrfaDechreuodd ei yrfa perfformio yn 2014 pan welodd y cynhyrchydd Gruff Meredith (MC Mabon) fideo ohono ar youtube. Cynigodd Gruff cytundeb recordio albwm ar label Tarw Du. Rhyddhawyd yr albwm Plannu Hedyn Cariad yn 2014. Daeth ei sioeau byw i boblogrwydd yng nghefn gwlad Cymru gyda chaneuon doniol am bethau fel peiriannau, lorïau, cwrw, bara brith a bywyd amaeth.[3] Yn 2016 cynigodd cwmni recordio Fflach cytundeb recordio ar y cyd gyda Tarw Du. Recordwyd gyda band llawn yn stiwdio Fflach Aberteifi, Ceredigion a rhyddhawyd 'Y Dyn o Gwmfelin Mynach' yn 2016. ![]() Dechreuodd ei yrfa radio yn 2017 pan lawnsiwyd BBC Radio Cymru MWY, mae bellach wedi cyflwyno sawl cyfres ar BBC Radio Cymru yn chwarae cymysgedd o ganu gwlad, gwerin a phop o Gymru ac Iwerddon. Perfformiodd y Welsh Whisperer 54 sioe yn 2017 yn cynnwys ymmdangosiadau ar raglenni teledu fel Heno, Noson Lawen, Ffermio a llawer mwy ar S4C. Mae hefyd wedi cyflwyno cyfres 'tafarn yr wythnos' ar Heno lle mae'n ymweld â thafarn gwhanol i gyfarfod bobl leol a pherfformio cân. Aeth hwn i 75 yn 2018 ac mae wedi ei nodi bod lleoliadau fel gwestai a neuaddau cefn gwlad sydd ddim wedi cael defnydd am amser hir bellach yn gartref i nosweithiau gyda'r Welsh Whisperer ar draws y wlad. Rhyddhawyd albym arall ar labeli Fflach a Tarw Du ym Mhontrhydfendigaid, Ceredigion yn 2017 o'r enw 'Dyn y Diesel Coch'. Curodd y CD yma record gwerthiant unrhyw artist ar label Fflach mewn un noson erioed. Yn 2019 sefydlwyd cwmni recordio a chyhoeddi'r Welsh Whisperer 'Recordiau Hambon Records' er mwyn cael reolaeth lawn o ochr masnachol y Welsh Whisperer. Mae Recordiau Hambon yn cydweithio gyda labeli a dosbarthwyr yn Iwerddon i geisio pontio rhwng y ddwy sîn adloniant canu gwlad yna. Mae gyrfa teledu wedi datblygu yn raddol ers 2016, mae'r Welsh Whisperer bellach wedi ymddangos ar sawl eitem Hansh, wedi cystadlu ar Fferm Ffactor a chael ei alw'n 'Calvin Harris ffermwyr Cymru[4]', ac wedi cyflwyno cyfres 'Tafarn yr Wythnos ar raglen Heno ar S4C. Ymddangosodd ar bennod Pobol y Cwm yn 2018.[5] Erbyn heddiw mae'r Welsh Whisperer yn cael ei adnabod fel un o artistiaid prysuraf yn y sîn cerddoriaeth Cymraeg. Disgyddiaeth![]() Albymau
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia