Ynys-y-bwl
Pentref mawr yng nghymuned Ynysybŵl a Choed-y-cwm ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Ynys-y-bwl,[1] weithiau Ynysybŵl.[2] Saif tua 20 milltir i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caerdydd, bedair milltir i'r gogledd o Bontypridd a 10 milltir i'r de o Ferthyr Tudful. Mae Nant Clydach yn llifo heibio iddo. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[4] HanesCofnodir yr enw yn y ffurf Seisnigaidd "Ynys y Bool" mewn dogfen Saesneg yn 1738. Gair Cymraeg ydy "bŵl" sy'n golygu "powlen" - sydd mae'n bosib yn cyfeirio at siâp crwn y dyffryn. Hyd y 1880au, roedd Ynys-y-bŵl yn ardal amaethyddol. Agorwyd Glofa Lady Winsor yn 1886, a dechreuodd y pentref dyfu o'i hamgylch. Caewyd y lofa yma yn 1988. Chwaraeon a diwylliantCeir côr a chlwb rygbi yma. Cynhelir Ras Nos Galan yma bob blwyddyn, i goffáu Guto Nyth Brân. Enwogion
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia