Abercwmboi
Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Abercwmboi.[1][2] Fe'i lleolir yng nghymuned De Aberaman. Saif ar ffordd y B4275, i'r de-ddwyrain o dref Aberdâr, ac ar lan Afon Cynon. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[4] Tarddiad yr enwAnaml ceir cyfuno aber a cwm mewn enw lle. Yn ôl Gwynedd O. Pierce, mae'n debyg taw nant o'r enw Confoe yw ail elfen yr enw a throdd dros amser yn "cwmboi", gyda'r acen ar y sillaf olaf. Mae'n bosib hefyd nad yw'r elfen "aber" yn cyfeirio at y man lle rhed y nant i Afon Cynon, ond yn hytrach mewn ystyr ffrwd neu nant yn syml. Mae'r ystyr hon o "aber" mewn enwau lleoedd yn gyffredin yn y gogledd, ond mae'n bosib taw Abercwmboi yw un o'r ychydig o enghreifftiau yn y de.[5] Enwogion
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia