Hirwaun
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Hirwaun. Saif ger Aberdâr ym mhen gogleddol Cwm Cynon. Yn ôl y cyfrifiad diwethaf yn 2001, mae rhyw 4,000 o drigolion yn byw yn y pentref a hynny'n tyfu o hyd wrth i fwy o ystadau tai newydd gael eu codi. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Beth Winter (Llafur).[1][2] HanesMae ganddo hanes diwydiannol cryf sydd wedi'i seilio ar weithgarwch mwyngloddio a gweithfeydd haearn, sydd â'u holion i'w gweld ger canol y pentref. Wedi'i lleoli ar gyrion y pentref mae Glofa'r Tŵr, sef pwll glo dwfn olaf Cymru. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6] Eglwysi a Chapeli HirwaunAgorwyd Eglwys St Lleurwg (Eglwys yng Nghymru) yn y pentref ym mis Mehefin 1858. Enwogion
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia