Y Garn (Rhinogydd)
Mynydd yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw'r Garn; cyfeiriad grid SH702230. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 314metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Saif yn rhan ddeheuol y Rhinogydd, i'r dwyrain o gopa Diffwys a chyda Coed y Brenin yn ei amgylchynu. Mae ychydig ar wahân i brif gopaon y Rhinogydd, gan fod Cwm Mynach rhwng Y Garn a Diffwys. Saif pentref Llanelltyd i'r de a Ganllwyd i'r dwyrain. Ceir hen fwynglawdd aur ar ei lechweddau. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 629 metr (2064 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001. Gweler hefyd
CyfeiriadauDolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia