Y Llethr
Y Llethr yw copa uchaf y Rhinogydd yng ngogledd Cymru; cyfeiriad grid SH661257. Saif i'r de o Rhinog Fach, gyda Llyn Hywel rhyngddynt, ac i'r gogledd o Diffwys dros Grib-y-rhiw. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 195metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Gellir dringo'r mynydd o'r gorllewin, gan gychwyn yng Nghwm Nantcol, naill ai'n uniongyrchol neu drwy ddringo i Fwlch Drws Ardudwy ac i gopa Rhinog Fach yn gyntaf. Dosbarthu copaonDosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 756 metr (2480 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Mawrth 2010. Gweler hefyd
CyfeiriadauDolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia