Y Borth
Pentref a chymuned yng Ngheredigion yw y Borth. Saif ar arfordir Bae Ceredigion, 9 km i'r gogledd o Aberystwyth. Mae ganddi tua 1,463 o drigolion, 32.4% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2011). Pentref bach pysgotwyr a morwyr fu'r Borth yn y gorffennol ond mae'r Borth, bellach, yn dref glan môr boblogaidd gyda sawl gwersyll carafanio yn y cylch. I'r dwyrain ceir corsdir eang o'r enw Cors Fochno ar lan aber Afon Dyfi. Ar un adeg gellid croesi gyda fferi bach o'r Ynys Las i'r gogledd o'r pentref i Aberdyfi dros Afon Dyfi. Mae gan y Borth orsaf reilffordd ar Reilffordd y Cambrian. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2] Coedwig y BorthAr y traeth rhwng y Borth ac Ynyslas, pan fo'r môr ar drai, gellir gweld boncyffion hen fforest betraidd sy'n profi fod tir yn gorwedd i'r gorllewin yn y gorffennol, cyn iddo gael ei foddi gan y môr ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig. Yn Ionawr 2014, oherwydd y gwyntoedd cryfion dadorchuddiwyd rhagor o'r bonion coed pan gliriwyd llawer o'r tywod; ymhlith y gwahanol fathau o goed roedd: y binwydden, y wernen, y dderwen a'r fedwen. Gorwedda'r bonion hyn mewn mawn. Dyddiwyd y coed drwy garbon-ddyddio a cheir tystiolaeth eu bod rhwng 4,500 a 6,000 oed.[3] Mae'r bonion yn ymestyn am tua dwy filltir a hanner.[4] Dyma un rheswm, o bosib, am y chwedl gyfarwydd am Gantre'r Gwaelod, a gysylltir ag ardal Aberdyfi sydd ar yr ochr arall i'r afon, i'r gogledd.
Oriel luniau
Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7] Trigolion o nod
Gweler hefydCyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia