Llanbadarn Fawr
Pentref ar gyrion tref Aberystwyth yw Llanbadarn Fawr. Mae'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Padarn, yn un nodedig. Roedd y clas yma yn ystod y Canol Oesoedd cynnar yn enwog am ei ddysg dan Sulien (c. 1010 - 1091) a'i fab Rhygyfarch ap Sulien. Roedd y clas yn parhau mewn bodolaeth pan ymwelodd Gerallt Gymro a Llanbadarn ar ei daith trwy Gymru yn 1188, er ei fod yn dirywio erbyn hynny. Ail-adeiladwyd yr eglwys yn 1257 yn dilyn tân, ac mae cryn dipyn o ail-adeiladu wedi bod wedyn. Bu Dafydd ap Gwilym yn byw yn y pentref ac mae yna gerdd amdano'i hun yn eglwys Llanbadarn, yn canolbwyntio ar y merched yn y gynulleidfa yn hytrach na'r gwasanaeth. Gwelodd y pentref ddatblygu mawr yn ystod y 90au, gyda archfarchnad Safeway (nawr Morrisons) a siopau eraill yn cael ei hadeiladu ar dir fferm Parc yr Afon. Un rhan bychan o Lanbadarn Fawr yw Pwllhobi sef y llecyn o gwmpas y garej a argraffdy Cambrian Printers. Mae gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gampws yma, yn cynnwys yr adran gwyddor gwybodaeth (Coleg Llyfrgellwyr Cymru gynt) a'r Sefydliad Astudiaethau Gwledig (Coleg Amaethyddiaeth Cymru gynt). Mae dwy dafarn yn y pentref, y Llew Du a'r Gogerddan Arms. Yma hefyd y lleolir caeau chwaraeon Prifysgol Aberystwyth (Prifysgol Cymru, Aberystwyth tan 2007) ar gaeau Blaendolau. Mae Llanbadarn Fawr hefyd yn gweithredu fel cyngor cymuned o'r un enw, sydd arwahân i Gyngor Tref Aberystwyth. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2] Cludiant CyhoeddusYn ystod tymhorau'r gwanwyn, hydref a haf, darperir gwasanaethau trênau gan Reilffordd Dyffryn Rheidol i Bontarfynach, Capel Bangor a Aberystwyth. Gellir gofyn i stopio'r trên yn y pentref, on nid yw hyn yn digwydd yn aml. Mae'r rheilffordd hon yn gorwedd ger y rheilffordd o Aberystwyth i Fachynlleth ac Amwythig. Mae llawer o wasanaethau bysus yn Llanbadarn Fawr gan gynnwys 501 o Aberystwyth i Barc y Llyn sydd yn dod bob ugain munud. Eglwys Sant PadarnMae eglwys Sant Padarn yn dyddio i'r 13g gyda'r gangell o'r 15g. Fe'i hadnewyddwyd yn 1868-84 gan J.P. Seddon. Capel SoarLleolir Capel Soar enwad Yr Annibynwyr ar Riw Briallu sy'n arwain allan o'r pentref i'r gogledd am Benrhyn-coch a Chommins Coch. Dwy Groes GeltaiddCeir dwy Groes Geltaidd mewn amgueddfa fechan a gynlluniwyd gan Peter Lord - a symudwyd yma o du allan yr eglwys yn 1916.
ChwaraeonCynrychiolir y pentref gan glwb pêl-droed Padarn United sydd â thîm cyntaf a thîm wrth gefn ac yn cystadlu yng Nghynghrair Aberystwyth, cynghrair lleol gogledd Ceredigion a gogledd o'r Afon Dyfi. Mae'r clwb yn chwarae ar gae pwrpasol ar feysydd Blaendolau. Defnyddir Tafarn y Gogerddan Arms fel eu tŷ clwb. Dolen allanolCyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5] Oriel
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia