Penrhyn-coch
Pentref bach yng nghymuned Trefeurig, Ceredigion, ydy Penrhyn-coch.[1] Lleolir rhwng Afon Stewi a Nant Seilo, yn agos i le maent yn ymuno ag Afon Clarach. Mae'r pentref tua 4½ milltir i'r gogledd ddwyrain o Aberystwyth. Mae'r boblogaeth wedi tyfu'n sylweddol ers yr 1970au, gan i sawl ystad o dai gael eu hadeiladu. Erbyn 2005, roedd 480 o dai a thua 1,037 o drigolion. Cyflogir rhan helaeth o'r boblogaeth yn Aberystwyth, neu yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth a leolir ar gyrion y pentref. (a adwaenir wrth yr acronym Seisnig, IBERS). Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3] CyfleusterauSaif Eglwys Sant Ioan (yr Eglwys yng Nghymru) yng nghanol y pentref a Horeb, Eglwys y Bedyddwyr ar gyrion y pentref. Mae'r pentref yn cynnwys Neuadd, Ysgol Gynradd Gymunedol Penrhyn-coch, clwb Pêl-droed sy'n chwarae ar Gae Baker, maes chwarae i blant, a maes chwarae. Mae hefyd gorsaf betrol a swyddfa bost, ill dau a siop fechan ynghlwm wrthynt. Mae gan asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (Comisiwn Coedwigaeth Cymru gynt), safle Gogerddan ar gyrion y pentref, gyda chyfleusterau picnic a llwybrau troed. HanesMae pentref Penrhyn-coch yn ddatblygiad gymharol ddiweddar. Nid oedd pentref yno yn ystod yr 18g, a roedd y tir lle saif y pentref heddiw yn rhan o Ystad Gogerddan a oedd yn eiddo i'r teulu Pryse. Dechreuodd y pentref ddatblygu tuag at ddiwedd yr 18g, ond ni dyfodd yn sylweddol hyd i'r ystad ddechrau gael ei rannu yn ystod yr 1940au. Lleolir cofeb yng nghanol y pentref i'r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Yn ôl thesis a gyhoeddwyd ym 1939, mae'r garreg cwarts mawr a ddefnyddwyd ar gyfer y gofeb yn faen hir hynafol.[4] Trigolion nodedigSaif man geni bardd yr 14g, Dafydd ap Gwilym (Brogynin) gerllaw.[5] Bu'n gartref am gyfnod yn yr 1750au i'r hydrograffwr a'r ysgolhaig Lewis Morris. Mae'r pentref hefyd wedi bod yn gartref i lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, David Jenkins, ers ei blentyndod. Yma y ganed Stephen Jones[angen ffynhonnell], chwaraewr rygbi. Mae'r pentref yn gartref i nifer o awduron gan gynnwys Niall Griffiths. Dolenni allanol
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia