William Rathbone VI
![]() Roedd William Rathbone (11 Chwefror 1819 - 6 Mawrth 1902) yn ŵr busnes, yn gymwynaswr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaernarfon ac Arfon.[1] Roedd y ffeminist Eleanor Rathbone (12 Mai 1872 – 2 Ionawr 1946) yn ferch iddo. Bywyd PersonolGanwyd William Rathbone yn Lerpwl yn fab i William Rathbone ac Elizabeth (née Greg) ei wraig. Roedd teulu Rathbone wedi bod yn un ddylynwladol yn natblygiad dinas Lerpwl ers dechrau'r 18g.[2] Cafodd ei addysgu mewn ysgolion yn Gateacre, Cheam ac Everton, cyn mynd yn brentis i gwmni marsiandwyr rhyngwladol Nicol, Duckworth & Co yn Lerpwl rhwng 1835 ac 1838. Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i astudio am dymor ym Mhrifysgol Heidelberg. O Heidelberg aeth ar daith trwy'r Eidal ym 1839. Fe ymbriododd dwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Lucretia Wainwright Gair o Lerpwl. Bu iddynt bump o blant ond bu hi farw o gymhlethdodau esgor yn fuan wedi genedigaeth y pumed plentyn. Ei ail wraig oedd Esther Emily Acheson Lyle (bu farw 1918), merch Acheson Lyle o Derry; bu iddynt chwech o blant. GyrfaYm 1840 aeth Rathbone i weithio fel clerc ym manc masnachol Baring Brothers. Ym mis Ebrill 1841 aeth ar daith fusnes i'r Unol Daleithiau ar ran y banc, cafodd y daith dylanwad mawr ar ei syniadaeth wleidyddol gan ei wneud yn rhydd masnachwr digyfaddawd. Ar ddiwedd 1841 daeth yn bartner yng nghwmni ei deulu Rathbone Brothers & Co gan barhau yn bartner hyd 1885. Gwaith dyngarolMae William Rathbone yn cael ei gofio yn bennaf am ei gyfraniad i ddatblygu gwasanaethau nyrsio ardal yng Nghymru a Lloegr ac am ei gyfraniad i sefydliadau addysgol. Pan oedd ei wraig gyntaf, Lucretia, ar ei gwely angau ym 1859 cafodd safon y gofal yr oedd hi'n derbyn gan Mary Robinson, ei nyrs, argraff fawr ar feddwl Rathbone. Roedd am sicrhau bod y fath gofal ar gael i bawb oedd ei angen. Mewn cydweithrediad a Florence Nightingale sefydlodd y Liverpool Training School and Home for Nurses ym 1860 i hyfforddi merched ar gyfer wasanaethu fel nyrsiaid ardal; lledaenodd ei ddulliau o hyfforddi a darparu gofal i ddinasoedd mawr eraill megis Manceinion a Birmingham ac erbyn 1874 i Lundain, lle sefydlwyd y Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer darparu Nyrsiaid Hyfforddedig. Ym 1887 bu Rathbone yn allweddol wrth sefydlu Sefydliad Jiwbilî'r Frenhines Victoria ar gyfer Nyrsiaid a ddaeth wedi hynny yn Sefydliad Nyrsio'r Frenhines, sy'n parhau o hyd. O'r 1860au bu Rathbone yn ymgyrchydd brwd dros wella safon nyrsio mewn tlotai. Fe fu William Rathbone yn flaengar yn yr ymdrechion i sefydlu Coleg Prifysgol Lerpwl (a agorwyd yn Ionawr 1882), sefydlodd ar y cyd a dau o'i frodyr Cadair y Brenin Alfred mewn llenyddiaeth fodern ac iaith Saesneg; ef oedd llywydd y coleg o 1892. Roedd yn weithgar iawn hefyd yn y mudiad i sefydlu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru (a agorwyd Hydref 1884), a bu'n llywydd o 1891. Cymerodd diddordeb byw mewn sicrhau llwyddiant seneddol i Ddeddf Addysg Ganolradd Cymru 1889.[3] Rhoddwyd Rhyddid Dinas Lerpwl iddo ym 1891, a derbyniodd gardd LL.D er anrhydedd ym 1895 gan Brifysgol Victoria. Gyrfa wleidyddol![]() Ym mis Tachwedd 1868 cafodd Rathbone ei ethol fel un o'r tri aelod dros Lerpwl, bu'n AS ar gyfer yr etholaeth hyd 1880. Penderfynodd sefyll dros yr etholaeth dde-orllewin Swydd Gaerhirfryn yn etholiad cyffredinol 1880 ond heb lwyddiant. Cafodd ei ddychwelyd yn y mis Tachwedd dilynol mewn is etholiad ar gyfer Sir Gaernarfon gan gynrychioli’r sedd hyd ei ddiddymiad ym 1885. Ym 1885 daeth yn aelod Rhyddfrydol dros etholaeth Arfon gan dal y sedd hyd ei ymddeoliad o'r senedd ym 1895.[4] MarwolaethBu farw yn Greenbank, Lerpwl, ar 6 Mawrth 1902 a chladdwyd ef ym mynwent Toxteth. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia