Eleanor Rathbone
Ffeminist o Loegr oedd Eleanor Rathbone (12 Mai 1872 - 2 Ionawr 1946) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, awdur ffeithiol a swffragét. Roedd yn Aelod Seneddol annibynnol ac yn ymgyrchydd tymor hir dros lwfans teulu a thros hawliau menywod. Roedd hi'n aelod o deulu nodedig y Rathbone o Lerpwl. Fe'i ganed yn Llundain a bu farw yn Llundain. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Somerville, Rhydychen.[1][2] MagwraethRoedd Eleanor Rathbone yn ferch i'r diwygiwr cymdeithasol William Rathbone VI a'i ail wraig, Emily Acheson Lyle. Anogodd ei theulu hi i ganolbwyntio ar faterion cymdeithasol. Aeth Rathbone i Ysgol Uwchradd Kensington (Ysgol Kensington Prep, bellach), Llundain; ac yn ddiweddarach aeth i Goleg Somerville, Rhydychen, yn erbyn ewyllus ei mam, ond gyda chefnogaeth Lucy Mary Silcox a hyfforddai hi yn y Clasuron (llenyddiaeth sydd wedi goroesi o'r Lladin a'r Groeg). [3][4][5][6][7] Roedd ei thad William Rathbone (11 Chwefror 1819 - 6 Mawrth 1902) yn ŵr busnes, yn gymwynaswr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaernarfon ac Arfon.[8] Coleg a gwaithAr ôl graddio, bu Rathbone yn gweithio ochr yn ochr â’i thad yn ymchwilio i amodau cymdeithasol a diwydiannol yn Lerpwl, nes iddo farw ym 1902. Roedd y ddau yn gwrthwynebu Ail Ryfel y Boer. Ym 1903 cyhoeddodd Rathbone ei hadroddiad ar ganlyniadau'r "Ymchwiliad Arbennig i amodau Llafur yn Nociau Lerpwl". Ym 1905 cynorthwyodd i sefydlu Ysgol Gwyddor Gymdeithasol ym Mhrifysgol Lerpwl, lle bu'n darlithio mewn gweinyddiaeth gyhoeddus. Mae ei chysylltiad â'r brifysgol yn dal i gael ei gydnabod gan "Adeilad Eleanor Rathbone", a darlithfa a Chadair Cymdeithaseg y brifysgol hefyd yn dwyn ei henw. Ymgyrchu dros etholfraintYm 1897, daeth Rathbone yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Pwyllgor Gweithredol Cymdeithas Etholfraint Merched Lerpwl gan ganolbwyntiodd ar ymgyrchu dros yr hawl i ferched bleidleisio.[9] Anrhydeddau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia