Walter Rice Howell Powell
Roedd Walter Rice Howell Powell (4 Ebrill 1819 – 26 Mehefin 1889) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol yn Sir Gaerfyrddin o 1880 i 1889. CefndirRoedd Powell yn fab i Walter Rice Howell Powell, ystâd Maesgwynne, Llanboidy a'i wraig Mary (née Powell). Cafodd ei addysg gan diwtoriaid preifat ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen. Bu'n briod ddwywaith: ym 1840 priododd Mary Anne, merch Henry Skrine, Warleigh Manor, Gwlad yr Haf, a bu iddynt un fab ac un ferch, bu farw Walter y mab yn 12 mlwydd oed ym 1855[1]. Ym 1851 Priododd Catherine Anne merch Grismond Phillips Cwmgwili a bu iddynt un ferch.[2] Gyrfa![]() Ar farwolaeth ei dad ym 1834 etifeddodd Powell Maesgwynne ystâd o 3,468 erw (14.03 km2) ym mhlwyf Llanboidy. O oedran cynnar, cymerodd Powell ddiddordeb mawr mewn hela, fe wariodd lawer o'i amser fel myfyriwr yn Rhydychen yn hela yn hytrach nag astudio a bu am 50 mlynedd yn feistr cŵn helfa Maesgwynne. Bu hefyd yn ymddiddori mewn rasio ceffylau gan adeiladu cwrs rasio ar ei dir a sefydlu rasys ffos a pherth flynyddol a oedd yn rhoi hawl i'r enillydd rasio yn y Grand National yn Aintree [3]. Bu'n hael yn ei gymorth i wella adnoddau i drigolion ardal Llanboidy gan dalu am adeiladu ysgol newydd, neuadd farchnad a gwesty a chyfrannodd at adfer Eglwys y Plwyf. Roedd wedi dechrau cynllunio system cyflenwi dŵr i'r pentref ychydig cyn ei farwolaeth, sicrhaodd ei weddw bod y cynlluniau yn cael eu cyflawni a bod ffynnon goffa i Powell yn cael ei gosod yn y pentref i nodi ei gymwynas olaf i'r Llan[4]. Gyrfa gyhoeddusO gyrraedd oedran oedolyn ym 1840 bu Powell yn eistedd fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Gaerfyrddin. Ym 1849 fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin[5], bu hefyd yn gwasanaethu fel dirprwy Raglaw Sir Gaerfyrddin a dirprwy Raglaw Sir Benfro. Bu Powell yn gefnogol i'r Blaid Geidwadol am gyfnod, yn isetholiad 1852 fe gyflwynodd y cynnig ffurfiol bod David Jones, Pantglas yr ymgeisydd Ceidwadol yn cael ei ethol.[6]; ond erbyn isetholiad 1857 yr oedd yn cynnig enw David Pugh fel ymgeisydd annibynnol [7]. Pan benderfynodd Pugh sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 1868, roedd yn parhau i dderbyn cefnogaeth Powell.[8] Safodd Powell yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Rhyddfrydol Sir Gaerfyrddin yn etholiad cyffredinol 1874 gan ddod yn drydedd allan o bedwar ymgeisydd; safodd eto yn etholiad cyffredinol 1880 gan ddod i frig y pôl. Diddymwyd etholaeth Caerfyrddin ym 1885 gan rannu'r gynrychiolaeth rhwng dwy etholaeth newydd yn dychwelyd un aelod yr un: Dwyrain Caerfyrddin a Gorllewin Caerfyrddin. Cafodd Phillips ei gynnig i fod yn ymgeisydd Rhyddfrydol yn y ddwy sedd ond dewisodd dderbyn ymgeisyddiaeth y Gorllewin, gan lwyddo i gipio'r sedd mwyn brwydr yn erbyn ei gyn cyd aelod dros y sir yr Is-iarll Emlyn. Cadwodd y sedd yn etholiad 1886 ond bu farw cyn diwedd y tymor seneddol. O ystyried ei safle cymdeithasol roedd agwedd wleidyddol Phillips yn eithaf radical i sgweier; roedd yn cefnogi'r bleidlais i ferched, yn cefnogi datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, yn cefnogi rhoi sicrwydd tenantiaeth i amaethwyr ac yn cefnogi rhoi telerau gwaith a chyflogau teg i weision fferm; yn wir roedd rhai o agweddau Phillips mor wrthyn i rai o'i gyd sgweieriaid a chefnogwyr y Ceidwadwyr fel eu bod yn ei gyhuddo o fod yn "Gomiwnyddol" [9]. Marwolaeth![]() Bu farw yn ei gartref ym Maesgwynne yn 71 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Sant Brynach, Llanboidy[10]. Adeiladwyd cofeb i Powell gan William Goscombe John a osodwyd yn wreiddiol y tu allan i Eglwys Sant Brynach ond sydd bellach wedi symud i mewn i'r adeilad.[11] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia