John Jones (AS Sir Gaerfyrddin)
Roedd John Jones (11 Rhagfyr 1815 – 26 Chwefror 1886) yn wleidydd Ceidwadol o Gymru ac yn Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin[1] Bywyd personolJohn oedd mab ieuengaf John Jones, Blaenos, Llanymddyfri a Mary merch William Jones Ystrad Walter, Caerfyrddin. Roedd brawd John, David yn rhagflaenydd iddo fel Cynrychiolydd Ceidwadol Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysgu yn Ysgol yr Amwythig Priododd ei gyfnither, Anne Thomas ferch David Thomas Wilfield, Sir Faesyfed. GyrfaCafodd ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1839 ond ni fu'n ymarfer fel bargyfreithiwr. Gwasanaethodd fel Is Raglaw Sir Gaerfyrddin ac Uchel Siryf y Sir ym 1854 Sefydlodd ei daid, David Jones, banc yn Llanymddyfri ym 1799, ac ar ei farwolaeth ym 1839 trosglwyddwyd y busnes i John a'i frodyr hyn David a William. Ehangodd y brodyr y banc o dan yr enw David Jones a'i Gwmni. Gyrfa wleidyddolGwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Gaerfyrddin o 1868 hyd 1880 pan gollodd y Ceidwadwyr un o ddwy sedd yr etholaeth i'r Rhyddfrydwr Walter Rice Howell Powell[2] MarwolaethBu farw yn sydyn wrth gerdded y caeau ger ei gartref yn 73 mlwydd oed [3] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia