John Lloyd Morgan
Roedd John Lloyd Morgan (13 Chwefror 1861 – 17 Mai 1944) yn gyfreithiwr, yn farnwr a gwleidydd o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Gorllewin Caerfyrddin rhwng 1889-1910.[1][2] Bywyd personolGanwyd Morgan yng Nghaerfyrddin yn fab i'r Parch William Morgan athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin a Margaret merch Thomas Rees, Capel Tyddist ,Llandeilo ei wraig. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Tettenhall, Swydd Stafford; Coleg Owens, Manceinion a Choleg y Drindod, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1883. Ni fu'n briod GyrfaCafodd ei alw i'r bar yn y Deml fewnol ym 1884, fe'i dyrchafwyd yn Gwnsler y Brenin ym 1906. Gwasanaethodd fel Cofrestrydd Chwarter Sirol Abertawe o 1908 i 1910 a Barnwr Llys Sirol Sir Gaerfyrddin o 1910 hyd ei ymddeoliad ym 1926 Gyrfa wleidyddolSafodd yn enw'r Blaid Ryddfrydol mewn isetholiad yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin ym 1889 gan ddod i frig y pôl a gan ddal y sedd hyd 1910 pan ymneilltuodd o'r senedd ar gael ei benodi'n farnwr. MarwolaethBu farw yng Nghaerfyrddin yn 83 mlwydd oed.[3] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia