Tŷ-du
![]() Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Casnewydd yw Tŷ-du (Saesneg: Rogerstone). Saif yng ngogledd-orllewin y sir, ac mae'n cynnwys rhan o Ddyffryn Ebwy. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 8,807. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ruth Jones (Llafur).[1][2] HanesErys ychydig o olion Castell Tŷ-du, castell mwnt a beili a adeiladwyd yn nechrau'r 12g gan Roger de Haia. Credir fod enw Saesneg y pentref yn dod o'i enw ef. Ceir nifer sylweddol o ffatrïoedd yn yr ardal yma. Dymchwelwyd Pwerdy Tŷ-du yn 1991. Ar y ffin rhwng y gymuned yma a chymuned Betws mae 14 llifddor cangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy. Adeiladwyd y llifddorau hyn yn 1799, ac maent yn codi'r gamlas 51 metr (o ran uchder) ar bellter o 0.8 km. Gweler hefydCyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas
|
Portal di Ensiklopedia Dunia