Llan-wern
Am y pentref yn Swydd Henffordd (Llanwern Teilo a Dyfrig), gweler Llanwarne.
Pentref, cymuned a ward etholiadol ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Llan-wern, hefyd Llanwern. Saif ar ffin ddwyreiniol dinas Casnewydd. Mae cynllun i adeiladu gorsaf drên yma ar Brif Linell De Cymru fel rhan o Fetro De Cymru.[1] EnwMae dwy ystyr i'r gair 'gwern': y goeden (alder) a'r tir gwlyb hwnnw lle mae'n tyfu. Cofnodwyd enw'r pentref yn gyntaf yn 1321 ("Llanwaryn"). Pobl nodedigYn y gymuned yma roedd Llanwern House, cartref David Alfred Thomas, Arglwydd Rhondda. Fe'i dymchwelwyd yn y 1950au. Claddwyd Thomas ym mynwent yr eglwys, ac mae neuadd y pentref yn rhodd ganddo ef. Roedd gan y bardd W.H. Davies gysylltiad a'r pentref hefyd. DiwydiantPrif nodwedd y gymuned yw hen waith dur Llan-wern, a agorwyd yn 1962; y gwaith dur integredig cyntaf yng ngwledydd Prydain. Rhoddwyd y gorau i gynhyrchu dur yma yn 2001, a'i droi yn ffatri gorffennu. Yn 2004, cyhoeddwyd bwriad i ail-ddatblygu rhan o'r safle. Mae'r safle yn ymestyn i gymuned Trefesgob. GwleidyddiaethCynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan John Griffiths (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Jessica Morden (Llafur).[3] CyfrifiadRoedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 333, a phoblogaeth y ward etholiadol yn 3,027. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas |
Portal di Ensiklopedia Dunia