Langstone, Casnewydd
Pentref, cymuned a ward etholiadol ym mwrdeisdref sirol Casnewydd yw Langstone. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,770. Saif Langstone i'r dwyrain o ganol dinas Casnewydd, ar gyrion yr ardal adeiledig. Tyfodd y pentref o gwmpas y briffordd A48, yna yn y 1990au adeiladwyd nifer o stadau tai. Heblaw Lanstone ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi bychain Llanbeder, Llandevaud a Llanfarthin. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan John Griffiths (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Jessica Morden (Llafur).[2] HanesCeir nifer o henebion yma, yn cynnwys gweddillion dau gastell mwnt a beili, ac olion gwersyll Rhufeinig. Ceir Chwarel Penhow yn y gymuned hefyd. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas |
Portal di Ensiklopedia Dunia