Richard Bulkeley (bu farw 1573)
Roedd Syr Richard Bulkeley (1524 - 1573) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Fôn ym 1549, 1554 a 1571[1] Fe'i ganed yn 1524, yn fab hynaf Syr Richard Bulkeley, Barwnig, Biwmares, Canghellor a Siambrlen Gogledd Cymru a Catherine ferch Syr William Griffith, Penrhyn.[2] Urddwyd ef yn farchog yn Berwick yn 1547 gan John, Iarll Warwick a Raglaw Byddin y Brenin yn yr Alban. Fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Môn yn 1547, 1552 a 1561, ac Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1550 a 1558 a Custos Rotulorum Môn 1558-1572. Bu'n briod ddwywaith: yn gyntaf a Margaret merch Syr Jonn Savage o Rock Savage, Swydd Gaer ac yn ail ag Agnes, merch hynaf Thomas Needham o Shenton. Bu ei fab hynaf Richard hefyd yn AS Sir Fôn, ei ail Fab Thomas yn AS Biwmares a bu ei fab ieuengaf Lawnslot, yn Archesgob Dulyn 1619-1650. Bu farw yn 1573, yn ôl pob tebyg wedi ei wenwyno gan ei ail wraig. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia