Lancelot Bulkeley
Clerigwr o Gymru oedd yn Archesgob Dulyn rhwng 1619 a 1650 oedd Lancelot Bulkeley (c. 1568 –- 8 Medi 1650) (weithiau Launcelot). Roedd yn fab i Richard Bulkeley (bu farw 1573) a hanner brawd Richard Bulkeley (bu farw 1621). Roedd yn enedigol o Fiwmares ac yn un o deulu'r Bwcleaid a oedd a'u cartref teuluol ym Mryn Barwn gerllaw Biwmares, Ynys Môn. Ar 1 Tachwedd 1649, cafodd ei arestio yn Nulyn am ddefnyddio'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Magwraeth ac addysgEf oedd 11fed mab Richard Bulkeley (bu farw 1573), o Fiwmares, ac ail blentyn ei ail-wraig Agnes (merch Thomas Needham o Stenton). Derbyniodd addysg yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, gan ddechrau yno yn 1587. Wedi iddo dderbyn gradd B.A. yno, aeth i Neuadd Sant Edmwnd, coleg arall yn Rhydychen ble cwbwlhaodd ei M.A. yn 1593. Yr EglwysAr 13 Tachwedd 1593 fe'i ordeiniwyd yn ddeacon gan yr Esgob Hugh Bellot, o Esgobaeth Bangor. Ychydig wedi hynny penodwyd ef gan Iago, brenin Lloegr yn Aelod o Gyfrin Gyngor Iwerddon. Ceisio wahardd dathliadau cyhoeddus o'r Offeren Gatholig. Pan glywodd trigolion y ddinas y newyddion hwn bu terfysg a thaflwyd cerrig ar Bulkeley, a ddihangodd i dŷ gerllaw. Gwrthododd Cyngor y Ddinas ei gefnogi mewn unrhyw ffordd a gwaharddwyd milwyr Coron Lloegr rhag atal y terfysgwyr. Ar 1 Tachwedd 1649, cafodd ei arestio yn Nulyn am ddefnyddio'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a waharddwyd gan Ddeddf 1647, Lloegr. Bu farw yn Tallaght, (Gwyddeleg: Tamhlacht) yn 82 oed ar 8 Medi 1650. Gweler hefyd
Ffynonellau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia