Richard Bulkeley (bu farw 1621)
Aelod o deulu Bulkeley ac Aelod Seneddol dros Ynys Môn oedd Syr Richard Bulkeley, a Gymreigid wethiau fel Rhisiart Bwclai (1533 – 1621). Roedd yn fab i Syr Richard Bulkeley (bu farw 1573). Daeth y mab yn amlwg fel un o wŷr llys Elisabeth I, brenhines Lloegr, a chofnodir iddi aros gydag ef yn Lewisham. Bu'n Aelod Seneddol dros Fôn o 1563, ac urddwyd ef yn farchog yn 1577. Bu'n ymryson ag Iarll Caelŷr ac Owen Wood o Rosmor, a'i cyhuddodd o ormesu trigolion Biwmares. Cyhuddodd Wood ef hefyd o fod yn rhan o Gynllwyn Babington, ond cafwyd ef yn ddieuog. Yn 1618, adeiladodd blasdy Baron Hill ger Biwmares, a ddaeth yn brif ganolfan y teulu. Ei etifedd oedd ei fab hynaf Thomas, a urddwyd yn Is-iarll Bulkeley yn 1644. Daeth mab arall, Launcelot Bulkeley, yn archesgob.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia