Rhinog Fawr
Mae Rhinog Fawr yn fynydd yn y Rhinogydd yng Ngwynedd; cyfeiriad grid SH656290. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 357metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Fel y rhan fwyaf o'r Rhinogydd, ceir creigiau wedi eu gorchddio gan rug, sy'n gwneud ei ddringo yn waith caled. Gellir ei ddringo trwy gychwyn gerllaw Llyn Cwm Bychan a dringo'r Grisiau Rhufeinig i ben Bwlch Tyddiad, yna troi i'r dde fymryn cyn man uchaf y bwlch i ddringo Rhinog Fawr. Dull arall yw cychwyn o ffermdy Maesygarnedd yng Nghwm Nantcol, man geni John Jones, Maesygarnedd. Oddi yma gellir dringo Bwlch Drws Ardudwy, sydd rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach, yna troi i'r chwith ym mhen y bwlch i gyrraedd y copa. Er gwaethaf ei enw, nid Rhinog Fawr yw'r copa uchaf yn y Rhinogydd; mae'r Llethr yn 756 metr o uchder. Dosbarthu copaonDosberthir copaon Cymru, a gweddill copaon gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl eu huchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 720 metr (2362 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001. Gweler hefyd
CyfeiriadauDolennau allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia