Nant-y-glo
Pentref mawr yng nghymuned Nantyglo a Blaenau, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Nant-y-glo.[1][2] Saif ychydig i'r de o Fryn-mawr ac i'r gogledd o'r Blaenau. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[3][4] Yn y 19g, roedd Nant-y-glo yn un o ardaloedd cynhyrchu haearn pwysicaf y byd. Datblygwyd Gwaith Haearn Nant-y-glo gan Crawshay Bailey, ac erbyn tua 1844 roedd gweithfeydd haearn a glo y teulu yn cyflogi 3,000 o ddynion a 500 o wragedd a phlant. Cadwai'r Siartydd Zephaniah Williams dafarn y Royal Oak yma. Gyda John Frost a William Jones, arweiniodd nifer fawr o wŷr o ardal Nant-y-glo i ddinas Casnewydd yn 1839. Roedd Beriah Gwynfe Evans yn enedigol o'r pentref. Gwybodaeth arallYn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 373 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 325 o bobl yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 280 o bobl yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 9.6% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[5] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia