Cendl
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Cendl[1] (Saesneg: Beaufort).[2] Saif ym mhen uchaf Cwm Ebwy Fawr, ac erbyn hyn mae'n un o faestrefi Glynebwy. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 10,328. Daw'r enw Cymraeg o enw Edwards Kendall, a gymerodd brydles yno yn 1782 ar gyfer gwaith haearn. Yn ddiweddarach, daeth Crawshay Bailey yn berchennog y gwaith yma. Daeth Capel Annibynnol Carmel yn adnabyddus.[3] Roedd hwn wedi ei gynllunio gan y Parchedig Thomas Thomas, Abertawe, a bu Thomas Rees yn weinidog arno. ![]() Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[4][5] Y GymraegYn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.1% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 301 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 311 o bobl yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 261 o bobl yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 11.7% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[6]
Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia