Moel Ysgyfarnogod
Mynydd yn y Rhinogau, de Gwynedd yw Moel Ysgyfarnogod . Ef yw'r mwyaf gogleddol o gopaon y Rhinogau, a saif i'r gorllewin o Lyn Trawsfynydd, de Gwynedd; cyfeiriad grid SH658345.. Gellir ei ddringo o ochr ddwyreiniol Llyn Trawsfynydd neu o ben draw yn ffordd gul uwchben Talsarnau. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 443metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 623m (2044tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 October 2001. Ceir olion nifer o weithfeydd cloddio manganîs ger copa'r foel. Gweler hefyd
CyfeiriadauDolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia