Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon

Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon (bl. ail hanner y 14g).[1]

Bywgraffiad

Ychydig a wyddom am y bardd ond cedwir ei ach mewn llawysgrif achyddol gan Gruffudd Hiraethog. Yn ôl yr ach honno, sy'n anghyflawn, roedd yn perthyn i deulu o feirdd yng nghwmwd Talybolion, gogledd-orllewin Môn, teulu a gynhwysai Dafydd Benfras, un o feirdd mawr Oes y Tywysogion a ganodd i Llywelyn Ein Llyw Olaf. Roedd hefyd yn gefnder i'r bardd Gruffudd ap Maredudd.[1]

Cerdd

Dim ond un gerdd o waith Llywelyn sydd ar glawr, sef awdl gyffes y bardd. Priodolir cerdd arall i fardd o'r enw Llywelyn Fychan o'r un cyfnod ond ymddengys mai bardd arall yw'r Llywelyn hwnnw.[1]

Llyfryddiaeth

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon'.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia