Guto'r Glyn
Roedd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yn fardd Cymraeg oedd yn perthyn i draddodiad Beirdd yr Uchelwyr. BywgraffiadEr na wyddom union ddyddiad geni Guto, mae'n bur debygol iddo ddod i'r byd naill ai yn 1400, blwyddyn gwrthryfel Owain Glyn Dŵr neu ychydig wedi hynny. Cysylltir Guto â Glyn Ceiriog, lle'r oedd nifer o'i noddwyr yn byw. Ysgrifennodd gerddi i noddwyr ym mhob rhan o Gymru, ac ystyrir ef yn un o feistri'r canu mawl. Gellir casglu o'i farddoniaeth fod Guto wedi bod yn filwr yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Roedd yn bleidiwr brwd i blaid yr Iorciaid, a chyfansoddodd gerddi i glodfori'r brenin Edward IV ac Iarll Penfro, William Herbert, prif gefnogwr yr Iorciaid yng Nghymru. Mae'r farddoniaeth gynharaf sydd wedi goroesi yn perthyn i ddiwedd 1437 neu ddechrau 1438, ac fe'u canwyd i uchelwr o Gymro a fu'n byw yn Ffrainc: Syr Rhisiart Gethin o Fuellt, rhyfelwr proffesiynol a enillodd fri yn ymladd dros goron Lloegr yn Normandi. Roedd Syr Rhisiart yn fab i Rys Gethin, un o gadfridogion Glyn Dŵr yn nechrau'r ganrif. Gwyddys i sicrwydd fod Guto wedi gwasanaethu Richard dug Iorc yn 1441 fel rhan o ail ymgyrch filwrol y dug yn Ffrainc a chredir hefyd iddo fod yn rhan o ymgyrch gyntaf y dug ac yn aelod o'r fyddin a laniodd yn Honfleur ar 7 Mehefin 1436 (Johnson 1988: 29). Mae'n bur debygol fod Guto wedi teithio i Normandi yn 1436/7 ac wedi cyfarfod ei noddwr, Syr Rhisiart Gethin, yno. Canodd hefyd gywydd mawl i Fathau Goch, milwr arall o Gymro a fu'n brwydro yn Ffrainc rhwng 1423 a 1450. Rhwng 1450 a 1470 treuliodd Guto'r rhan fwyaf o'i amser mewn dwy ardal yn y Gororau yng Nghroesoswallt, fel canolfan i'w deithio neu 'glera' yn y Gogledd, a chastell Rhaglan, canolfan rymus yr Herbertiaid yng Ngwent, yn y De. Ac mae'n debygol iddo glera cryn dipyn mewn ardaloedd eraill, yn arbennig yng Ngwynedd. Treuliodd Guto ei flynyddoedd olaf fel gwestai yn Abaty Sistersaidd Glyn y Groes, ger Llangollen. Roedd ei gyfaill agos Gutun Owain yn ymwelydd cyson â'r abaty hefyd, a chanodd farwnad i'w gyfaill. Mae'n debygol fod Guto wedi ei gladdu ar dir yr abaty. PortreadRoedd yn ŵr cryf yn ei ieuenctid a chyeir sawl cyfeiriad at y ffaith iddo ddirywio wrth fynd yn hŷn, gan golli ei olwg tua'r diwedd. Derbyniodd gryn glod pan oedd yn iau am daflu maen, fel y sonia cydoeswr iddo, Gutun Owain. Bu'n saethydd ym myddin Richard, dug Iorc, yn 1441. Byddai ei gryfder a'i daldra wedi bod yn gaffaeliad iddo fel saethydd. Mewn un gerdd ddychanol awgryma cydoeswr arall iddo, Dafydd ab Edmwnd, i'r bardd ddioddef anaf yn sgil codi pwysau pan oedd yn ifanc ac mewn cerddi eraill sonia ei fod yn or-hoff o fwyat a'i fod yn ddyn boliog. Canodd Llywelyn ap Gutun at 'fwyall drwyn ac wyneb arth' a mynn Guto'i hun fod ganddo wyneb hen ei olwg a phen mawr sydd wedi moeli yn y cywydd mawr sydd ganddo i Abad Tomas o Amwythig: Mae i mi wyneb padrïarch Credir iddo golli ei wallt pan oedd yn ŵr ifanc a disgrifiwyd ef gan Hywel Dafi mewn cerdd ddychan o hanner cyntaf y 15g fel moel brydydd. Gweler hefydLlyfryddiaeth
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd
|
Portal di Ensiklopedia Dunia