Leanne Wood
Gwleidydd o Gymru a chyn-arweinydd Plaid Cymru yw Leanne Wood (ganed 13 Rhagfyr 1971). Bu'n cynrychioli Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ranbarth Canol De Cymru rhwng 2003 a 2016. Cipiodd sedd y Rhondda yn etholiad y Cynulliad, 2016 ond ni chafodd ei hail-ethol yn Etholiad Senedd Cymru, 2021. Bu'n Weinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ac yn llefarydd Plaid Cymru ar Dai ac Adfywio. Fe'i ganed yn Llwynypia yn y Rhondda. Mae hi'n weriniaethwr ac yn sosialydd o argyhoeddiad ac fe ddysgodd Cymraeg fel oedolyn. Mae hi hefyd yn un o Is-lywyddion Anrhydeddus Searchlight Cymru. Gorfodwyd iddi adael siambr y cynulliad ar ôl iddi gyfeirio at frenhines y DU wrth ei henw personol, sef Mrs Windsor, yn hytrach na "The Queen", a hynny oherwydd ei daliadau gwleidyddol fel gweriniaethwraig Gymreig.[2] Arweinyddiaeth Plaid CymruFe etholwyd Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru ar Fawrth 15fed 2012, gan guro Dafydd Elis Thomas ac Elin Jones. Seiliwyd ei hymgyrch ar y cysyniad o 'wir annibyniaeth'[3]. Cafwyd her i arweinyddiaeth Leanne Wood yng Ngorffennaf 2018, gyda Rhun ap Iorwerth ac Adam Price yn sefyll i fod yna arweinydd newydd.[4]. Cafwyd ymgyrch etholiadol gan y tri ymgeisydd yn ystod Awst a Medi. Cyhoeddwyd mai Adam Price fyddai'r arweinydd newydd ar 28 Medi 2018. Enillodd Price 3,481 pleidlais yn y rownd gyntaf, gyda ap Iorwerth yn ail gyda 1,961 pleidlais a Wood yn drydydd gyda 1,286. Yn yr ail rownd, cafodd Price 2,863 pleidlais, a derbyniodd ap Iorwerth 1,613 pleidlais.[5] Dadl deledu, 2015Ar yr ail o Ebrill 2015, cymerodd Leanne ran mewn dadl rhwng 7 o wleidyddion ac a ddarlledwyd ar brif sianeli teledu gwledydd Prydain. Etholiad 2021Collodd Wood ei sedd yn Rhondda yn yr etholiadau Seneddol 2021. Ar ôl buddugoliaeth Buffy Williams (Plaid Llafur), talodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, teyrnged i “ymroddiad a dewrder” Leanne Wood.[6] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia