Jillian Evans
Gwleidydd o Gymru yw Jillian "Jill" Evans (ganed 8 Mai 1959) sy'n Aelod Senedd Ewrop dros Gymru, ac sy'n aelod blaenllaw o Blaid Cymru. Mae hefyd yn gadeirydd CND Cymru. GyrfaGaned hi yn Ystrad Rhondda yn y Rhondda a'i haddysgu yn Nhonypandy a Phrifysgol Abertawe. Bu'n gweithio fel cynorthwydd ymchwil ym Mholitecnic Cymru lle enillodd radd M.Phil. Bu'n gweithio dros Sefydliad y Merched yng Nghymru am chwe blynedd cyn dod yn drefnydd gros Gymru i CHILD - Rhwydwaith Cefnogi Anffrwythlondeb Cenedlaethol. Bu'n gadeirydd Plaid Cymru o 1994 hyd 1996, a daeth yn Aelod Seneddol Ewrop yn etholiad 1999, gan ddod yn ASE cyntaf y Blaid gydag Eurig Wyn. Cafodd ei hethol yn Is-Lywydd Plaid Cymru yn 2004. Ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu Dafydd Iwan fel Llywydd y Blaid, cymerodd drosodd fel Llywydd ym Medi 2010.[1] Yn Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Jill Evans yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[2] Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd.[3] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia