Dafydd Trystan Davies
Cadeirydd Plaid Cymru ers Hydref 2013 yw Dafydd Trystan Davies (ganed 11 Awst 1974, Aberdâr).[1][2] Safodd dros Blaid Cymru yn etholiad seneddol Cwm Cynon yn 2010 ac yn etholiad y Cynulliad yng Nghwm Cynon yn 2011. Mae'n ymgeisydd ar gyfer etholaeth De Caerdydd a Phenarth yn etholiad y Cynulliad, 2016 ac yn ymgeisydd ar gyfer Rhestr Canol De Cymru. Mae'n briod gyda Lisa Turnbull sy'n enedigol o Milton Keynes.[3] Yn ei waith o ddydd i ddydd mae'n Gofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ers Medi 2007, a bu'n Brif Weithredwr Plaid Cymru rhwng Medi 2002 a Medi 2007.[4] Fe'i ganwyd yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf. Cafodd Dafydd, sy’n byw yng Nghaerdydd ei addysg yn Ysgol Rhydfelen a Phrifysgol Aberystwyth, gan ennill gradd dosbarth cyntaf a Doethuriaeth mewn 'Globaleiddio ac economi Cymru'. Bu hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng Medi 1998 a Medi 2002. Mae'n gadeirydd menter gymdeithasol Cycle Training Wales, yn gyfarwyddwr TooGoodToWaste, menter gymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf, ac yn aelod o fwrdd y corff cludiant cynaliadwy, Sustrans Cymru. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia