John Owen, Clenennau
Tirfeddiannwr ac arweinydd milwrol dros blaid y Brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref oedd Syr John Owen, Clenennau (1600 – 1666).[1] Ganed ef ar ystad y Clenennau, gerllaw Dolbenmaen, yn fab hynaf i John Owen, Bodsilin. Priododd Jonet, merch Griffith Vaughan, Corsygedol, ac etifeddodd ystad Clenennau yn 1626. Bu'n Siryf Sir Gaernarfon yn 1630-1. BywgraffiadPan ddechreuodd y Rhyfel Cartref yn 1642, rhoddodd y brenin Siarl I gomisiwn iddo i godi tair catrawd o dair sir Gwynedd. Y flwyddyn wedyn, 1643, bu ef a'i gatrodau yn ymladd o amgylch Rhydychen ac wedyn yng ngwarchae Bryste, lle cafodd ef ei glwyfo. Yn 1645 bu'n ymladd yng ngogledd Cymru. Gwnaed ef yn gyfrifol am amddiffyn Conwy, ond nid oedd y berthynas rhyngddo ef a'r Archesgob John Williams yn dda. Yn y diwedd, trodd yr archesgob i gefnogi'r Senedd, a bu raid i Owen ildio Castell Conwy ar 9 Tachwedd. Yn ystod yr Ail Ryfel Cartref yn 1648, cododd Sir Feirionnydd o blaid y brenin. Bu'n gwarchae ar dref Caernarfon, ond bu raid iddo encilio tua Bangor a gorchfygwyd ef ym mrwydr y Dalar Hir ger Llandygai ar 5 Mehefin. Cymerwyd Owen yn garcharor ac yn 1649 rhoddwyd ef ar ei brawf am deyrnfradwriaeth yn erbyn y Senedd. Condemniwyd ef i farwolaeth, ond ataliwyd y ddedfryd a gollyngwyd ef yn rhydd. Pan ddychwelodd y brenin Siarl II i gymeryd meddiant o'i deyrnas, apwyntiwyd Owen yn is-lyngesydd Gogledd Cymru. Bu farw ar ei ystad yng Nghlenennau yn 1666. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia