Clenennau
Plasdy hynafol yn Eifionydd, Gwynedd yw'r Clenennau. Daeth yn ganolfan Ystâd Clenennau a chwareuodd ran bwysig yn hanes y rhan honno o Ogledd Cymru. Heddiw mae'n ffermdy. LleoliadSaif Clenennau yn ardal Penmorfa tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o Borthmadog yn rhan isaf Cwm Ystradllyn, Eryri, tua hanner milltir i'r dwyrain o bentref Golan.
HanesRoedd teulu'r Clenennau yn un o bedwar teulu grymus yn Eifionydd - gyda teuluoedd plasdai cyfagos Y Gesail Gyfarch, Ystumcegid a Bryncir - a hawliai eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol i'r brenin Owain Gwynedd. Yn yr 16g, unwyd ystadau Clenennau a Brogyntyn (ger Croesoswallt) pan briododd Syr William Maurice, aer Clenennau, ag aeres Brogyntyn. Un o breswylwyr enwocaf Clenennau oedd Syr John Owen (1600-1666), a gododd wrthryfel yng Ngogledd Cymru o blaid y brenin Siarl I yn erbyn llywodraeth Oliver Cromwell yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia